Iechyd: Mwy o amser i gyngor benderfynu
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Iechyd Cymuned y gogledd wedi cael mwy o amser i drafod ad-drefnu iechyd yn yr ardal gan Lywodraeth Cymru.
Yn wreiddiol, roedd rhaid i'r CIC benderfynu erbyn Mawrth 1 os ydyn nhw am gyfeirio rhai o gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.
Ond mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymestyn y dyddiad cau tan Fawrth 11.
Eisoes mae'r CIC wedi dweud nad yw'n fwriad ganddyn nhw gyfeirio rhai o elfennau mwyaf dadleuol y cynlluniau at y gweinidog, gan gynnwys cau pedwar ysbyty cymunedol a throsglwyddo gwasanaethau gofal dwys i fabanod newydd anedig i ysbyty yn Lloegr.
Ond mae'r corff wedi dweud eu bod am gael mwy o amser i drafod pryderon am fuddsoddiad cyfalaf i nifer o ganolfannau gofal cychwynnol y bwrdd, ac am amserlen y newidiadau.
Llythyru
Awgrymodd Mrs Griffiths ddydd Mercher y gallai benderfynu ystyried rhai o'r newidiadau i wasanaethau yn y gogledd hyd yn oed pe na bai nhw'n cael eu cyfeirio ati gan y CIC.
Dywedodd ei bod wedi derbyn "lefel uchel o lythyru" am y gwasanaeth i fabanod, ond ei bod yn bwysig bod y broses briodol yn cael ei dilyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Iau: "Mae Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr wedi gofyn am estyniad o'r dyddiad cau er mwyn ceisio datrys rhai materion gyda'r Bwrdd Iechyd.
"Wrth nodi'r camau sydd eisoes wedi eu cymryd, mae'r Gweinidog wedi penderfynu caniatáu mwy o amser i'r CIC i ddod i benderfyniad terfynol.
"Mae gan y CIC tan Fawrth 11 i benderfynnu os ydyn nhw am gyfeirio unrhyw faterion at sylw'r Gweinidog am ei phenderfyniad terfynol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013