Dros 200 o achosion o'r frech goch
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr ugain achos newydd eu hadnabod yn yr ardal ers dydd Iau, Chwefror 28
Daeth ugain achos newydd o'r frech goch i'r amlwg yn ardal Abertawe, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd yr ugain achos newydd eu hadnabod yn yr ardal ers dydd Iau, Chwefror 28, ac mae'n dod â'r cyfanswm o achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i 209.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o'r brechiad MMR er mwyn atal eu plant rhag cael eu heintio.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd eu bod yn gweithio'n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i daclo'r achosion.
Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr gwarchod iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn, ac fe fydd 90% o bobl sydd heb eu brechu yn ei ddal.
"Mae'r mwyafrif yn gwella o'r frech goch, ond mae posibilrwydd prin i gymhlethdodau gan gynnwys afiechyd y llygaid, niwed i'r ymennydd a hyd yn oed marwolaeth."
Dylai rhieni plant rhwng un a 18 oed sydd heb gael eu brechu gysylltu'n syth gyda'u meddyg teulu am gyngor, a threfn i gael brechiad cyn gynted â phosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013