Symud milwyr i Sain Tathan wrth i safle milwrol gau
- Cyhoeddwyd
Bydd canolfan filwrol yn Sir Benfro yn cau, gyda 600 o filwyr yn cael eu symud i safle arall ym Mro Morgannwg.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, y bydd 14eg Catrawd y Signalau - arbenigwyr mewn offer rhyfel electronig - yn symud o'u canolfan ym Marics Cawdor, ym Mreudeth, i Sain Tathan ar ôl 2018.
Mae'r newidiadau yn rhan o gynllun gwerth £1.8 biliwn i ad-drefnu canolfannau'r fyddin cyn i filoedd o filwyr Prydain ddychwelyd o'r Almaen erbyn 2020.
Bydd tua £100 miliwn o'r cyllid yn cael ei wario yng Nghymru.
Y bwriad yw gwneud gwell defnydd o safleoedd a darparu gwell llety a chyfleusterau ar gyfer milwyr a'u teuluoedd.
Dywedodd Mr Hammond nad oedd y safle ger Tŷ Ddewi yn "addas o gwbl - dyna'r gwirionedd".
Wrth siarad â newyddiadurwyr ddydd Mawrth, dywedodd: "Mae pobl yn gyndyn o symud eu teuluoedd i safle mor anghysbell.
"Roedd cyflwr y llety'n ffactor sylweddol. Dyw e ddim yn addas erbyn hyn."
Strategaeth
Ychwanegodd fod y safle ym Mro Morgannwg wedi'i ddewis fel rhan o strategaeth i ganoli gwasanaethau rhanbarthol o gwmpas Sain Tathan.
Dywedodd fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud y defnydd gorau posib o'r safle hwnnw.
Y bwriad yw cael gwared ar Farics Cawdor, ond dywedodd Mr Hammond ei fod yn annhebygol y byddai'r safle yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai oherwydd cyfyngiadau cynllunio lleol. Ond ychwanegodd y gallai'r tir gael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpasau amaethyddol neu brosiectau eraill.
O dan gynlluniau eraill, bydd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn symud o Hounslow, yng ngorllewin Llundain, i Pirbright yn Surrey.
Yr haf diwetha' cafodd dau fataliwn y Cymry Brenhinol eu huno fel rhan o doriadau o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ymateb
Dywedodd y gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wrth ymateb i'r cyhoeddiad:
"Er ei fod yn siomedig gweld Barics Cawdor ym Mreudeth, Sir Benfro, yn cau, mae'r newidiadau yma'n hanfodol i ddyfodol ein lluoedd arfog.
"Rwy'n falch y bydd 14eg Catrawd y Signalau yn symud i SainTathan ac felly'n aros yng Nghymru.
"Mae disgwyl hefyd y bydd Cymru'n benodol yn derbyn buddsoddiad o tua £100 miliwn mewn isadeiledd i gefnogi'r ail-leoli."
Roedd Cyngor Sir Benfro yn fwy siomedig, gan ddweud bod tua 250 o staff parhaol a'u teuluoedd yn byw yn lleol yn ardal y barics ym Mreudeth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: "Mae'n ddiwrnod trist iawn i Sir Benfro, mae'n newyddion siomedig ac fe fydd y cyngor yn parhau i bwyso ar y llywodraeth i wyrdroi'r penderfyniad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd17 Mai 2012