Comisiwn Silk: Llywodraeth y DU yn rhoi tystiolaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd y glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru'n ddiweddarach.
Bydd gweinidogion yn cyflwyno tystiolaeth i gomisiwn trawsbleidiol sy'n edrych ar ystod pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Fis diwetha' fe alwodd Llywodraeth Cymru am ddatganoli plismona ac, yn y tymor hir, cyfiawnder troseddol.
Mae Comisiwn Silk eisoes wedi dweud y dylai'r cynulliad gael grymoedd i newid rhai trethi.
Mae'r comisiwn, a sefydliwyd gan Lywodraeth y DU, wedi derbyn dros 100 eitem o dystiolaeth yn yr ail ran o'i waith ar bwerau'r cynulliad.
Bydd tystiolaeth y llywodraeth ei hun ddydd Mercher yn datgelu ei safbwynt ar faterion fel datganoli plismona, prosiectau ynni mawr ac a ddylid trosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarlledu o San Steffan i Fae Caerdydd.
Yn ôl Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, mae darganfod safbwynt gweinidogion ar faterion fel hyn yn rhan allweddol o'r broses.
Mae disgwyl i'r comisiwn gyhoeddi ei gasgliadau yng ngwanwyn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2013