Llywydd y Cynulliad yn galw am fwy o ACau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ffafrio cynyddu nifer aelodau'r sefydliad o 60 i 80.
Bydd Rosemary Butler yn dweud wrth roi tystiolaeth i Gomisiwn Silk fod angen hyn oherwydd y pwysau gwaith ar Aelodau'r Cynulliad.
Mae Comisiwn Silk yn ymchwilio i bwerau'r Cynulliad, a'r posibilrwydd o ddatganoli mwy o rym.
Mae hi hefyd yn dweud y dylai'r sefydliad yn y dyfodol gael ei ddisgrifio fel senedd yn hytrach na chynulliad.
"Does dim amheuaeth gennyf, mae angen cynyddu nifer yr aelodau o 60 i 80."
"Oherwydd pwysau cyfrifoldeb does 'na ddim dwywaith bod angen mwy o aelodau."
Mae Ms Butler hefyd yn dadlau o ran fwy o bwerau i Fae Caerdydd.
"Mae sicrwydd cyfreithiol yn rhywbeth sy'n nodweddiadol o unrhyw system ddemocrataidd ac mae angen diffiniad mwy cywir o allu'r sefydlaid er mwyn rhoi mwy o sicrwydd cyfreithlon a hynny er mwyn i ni fod yn hyderus wrth weithredu."
Fe wnaeth y ddeddf gyntaf i gael ei phasio gan y Cynulliad o dan bwerau newydd wynebu her gan lywodraeth San Steffan yn y llysoedd.
Penderfynodd panel o bum barnwr o blaid Llywodraeth y Cynulliad.