Lladd-dy: Achub 70 o swyddi?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib' y gallai rheolwyr lladd-dy ar Ynys Môn achub swyddi.
Y disgwyl yw y bydd safle Welsh Country Foods yn Y Gaerwen yn cau yn Ebrill ac mae hyd at 300 o swyddi dan fygythiad.
Yn ôl y rheolwyr, mae eu cais nhw wedi ei gyflwyno ond yn dibynnu ar sicrhau trefniadau ariannol.
Petai'r cais yn llwyddiannus, medden nhw, fe fyddai modd achub hyd at 70 o swyddi.
Dywedodd y cyfarwyddwr safle, Eddie Ennis, fod y cwmni o'r Iseldiroedd, Vion, yn ystyried eu cynnig.
"Os yw'r safle ar agor efallai y bydd modd ailadeiladu'r busnes.
"Bydd penderfyniad erbyn diwedd yr wythnos nesa'. Dwi'n weddol obeithiol, mae digon o gefnogaeth."
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi "cynnig sylweddol" i ddatblygu'r safle ac wedi dweud y byddai modd estyn hyn i berchennog newydd.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Bryan Owen, y byddai dirprwyaeth yn cyfarfod ag Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, yr wythnos nesa'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013