Trefn ar-lein yn bygwth hawlwyr budd-daliadau?
- Cyhoeddwyd
Mae rhai'n poeni y bydd hawlwyr ar eu colled pan fydd system fudd-daliadau yn cael ei gweithredu ar-lein yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Eleni mae Llywodraeth Cymru yn gwario £1m ar gynhwysiant digidol, yn annog pobl i ddefnyddio cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd lleol.
Bydd £21m o arian Ewrop yn cael ei wario am bedair blynedd ar ostwng y nifer na all ddefnyddio cyfrifiadur.
Bydd angen i hawlwyr ddefnyddio cyfrifiadur er mwyn dangos eu bod yn chwilio am waith. Y gosb am beidio â gwneud hyn fydd budd-daliadau is.
Gofynnwyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau am sylw.
Ym Mlaenau Gwent mae'r nifer fwya' yng Nghymru o bobl na all ddefnyddio cyfrifiadur.
Bob dydd mae Kenneth Power o Dredegar yn mynd i'r llyfrgell leol er mwyn chwilio am waith ar-lein.
'Diodde'n barod'
"Mae cyfrifiadur yn y tŷ ond allwn ni ddim fforddio ei ddefnyddio," meddai Mr Power, sydd wedi bod yn ddiwaith am 18 mis.
Dywedodd y Cynghorydd Hayden Trollope fod y cyngor yn gofidio am yr effaith ar rai pobl.
"Bydd newid y drefn yn effeithio ar rai sy'n diodde'n barod, y rhai ag anableddau sy'n cael gwaith defnyddio'r we."
Dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb, Jane Hutt: "Bydd rhaid i ni sicrhau bod pawb ar-lein a rhaid i Lywodraeth Prydain gael y neges bod angen mwy o adnoddau i gyflawni hyn.
"Ar hyn o bryd rydyn ni'n trefnu adnoddau oherwydd bydd yr hawlwyr yn wynebu cyfnod anodd iawn."
Pan ddaw Credyd Cynhwysol i rym yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd pob budd-dal yn cael ei gyfuno'n un credyd fydd yn cael ei dalu i gyfri' banc pob hawliwr bob mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013