Pryder am y newid i'r dreth 'ystafell wely'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i warchod teuluoedd rhag cael eu gwneud yn ddigartre' pan fydd y dreth ar ystafelloedd gwely sbâr yn dod i rym.
Mae'r newidiadau gan Lywodraeth San Steffan yn golygu bod nifer yr ystafelloedd gwely mewn tŷ neu fflat yn gorfod cyfateb yn union i nifer y bobl sy'n byw yno.
Os oes 'na 'stafell sbâr, mi all teulu gael eu gorfodi yn ôl Cuts Watch Cymru i symud i eiddo llai - neu weld gostyngiad yn eu budd-daliadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n bryderus am effaith y dreth newydd, a ddaw i rym ar Ebrill 1.
Mae mudiad Cuts Watch Cymru yn poeni hefyd nad oes 'na ddigon o dai ar gael petai rhaid i bobl symud i dai llai.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau tai i weithredu er mwyn amddiffyn tenantiaid rhag effeithiau'r rheolau newydd.
Dywed y mudiad mai Cymru fydd y rhan o'r DU a gaiff ei tharo waethaf oherwydd y bydd 46% o'r rhai sy'n derbyn budd-dal tai yn cael eu heffeithio.
Prinder llety
"Bydd o leiaf 40,000 o'r rhai sy'n hawlio budd-dal yng Nghymru yn cael eu heffeithio - y golled flynyddol ar gyfartaledd i denantiaid yng Nghymru gyda 'stafell wely sbâr fydd tua £600," meddai'r adroddiad.
Dywedodd Cadeirydd CWC Victoria Winckler: "Mae'n un peth i ddweud wrth bobl am symud, ond mae prinder gwirioneddol o lety rhent yng Nghymru.
"Hyd yn oes all pobl ddod o hyd i rywle, bydd rhaid talu'r gost o symud a bydd pobl gydag anableddau yn colli unrhyw addasiadau sydd wedi'u gwneud i'w cartrefi. "
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru eu bod yn "hynod bryderus" am effaith y newidiadau ac yn "ystyried argymhellion adroddiad ar effaith posib y rheolau".
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Pensiynau: "Nid bwriad y newidiadau yw gwneud pobl yn ddigartref.
"Y nod yw dod a thegwch i system sydd wedi bod allan o reolaeth.
"Mae'n deg fod pobl sy'n byw mewn tai sy'n fwy na'r hyn sydd eu hangen yn gwneud cyfraniad i'w rhent, neu yn symud i gartref sy'n fwy addas i'w anghenion - a dyna beth sy'n digwydd i bobl sy'n rhentu yn y sector breifat. "
Dywedodd nad oedd yn disgwyl y byddai llawr o bobl yn symud oherwydd y newidiadau.
Ychwanegodd fod £155 miliwn ar gael i helpu teuluoedd a £30 miliwn i helpu pobl anabl sydd â thai wedi eu haddasu.