Allen yng ngharfan bêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Allen ar gael i'r garfan gan nad oes penderfyniad pa bryd fydd yn cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd

Mae chwaraewr canol cae Lerpwl, Joe Allen, wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Yr Alban a Croatia.

Mae'r chwaraewr 22 oed wedi bod yn diodde' gydag anaf i'w ysgwydd ond does dim penderfyniad ynglŷn â phryd fydd yn cael llawdriniaeth eto.

Bydd Cymru'n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria fis diwetha'.

Mae asgellwr Tottenham, Gareth Bale, hefyd wedi'i gynnwys.

Mae Bale wedi sgorio 10 o goliau yn ystod ei 11 gêm ddiwetha'.

Does dim lle i Adam Matthews yn y garfan, wedi iddo gael anaf i linyn y gar wrth iddo chwarae dros Celtic yn erbyn Juventus yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mae James Collins yn ei ôl ar ôl iddo fethu â chwarae yn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Awstria.

Mae ymosodwr Leeds United, Steve Morison, hefyd yn dychwelyd ar ôl anaf.

Ond oherwydd nad ydy Darcy Blake wedi chwarae rhyw lawer yn ddiweddar, dydy o ddim wedi'i gynnwys.

Mae chwaraewr Crystal Palace, Jonathan Williams, sydd eto i ennill cap, wedi'i ddyrchafu o'r garfan dan-21 ar ôl sgorio yn y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Gwlad yr Iâ.

Mae Craig Bellamy ac Aaron Ramsey hefyd wedi'u cynnwys yn y garfan.

Bydd Cymru'n wynebu'r Alban ym Mharc Hampden ar nos Wener, Mawrth 22, yng ngêm gystadleuol gynta' Gordon Strachan fel rheolwr.

Byddan nhw wedyn yn herio Croatia yn Abertawe ar nos Fawrth, Mawrth 26.

Carfan Cymru:

Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Ashley Richards (Abertawe - ar fenthyg o Crystal Palace), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Reading), Steve Morison (Leeds United), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol