Y Pab Ffransis I wedi ei ethol
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Alun Thomas
Jorge Mario Bergoglio yw'r Pab newydd fydd yn cael ei adnabod fel y Pab Ffransis I.
Awr yn gynharach daeth y mwg gwyn o'r Capel Sistinaidd yn dangos bod 'na Bab newydd wedi ei ethol.
Fe ddaw'r Pab newydd 76 oed o Buenos Aires yn yr Ariannin ac roedd yn ymgeisydd agos pan etholwyd y Pab Bened XVI yn 2005.
Ef yw'r Pab cyntaf o America Ladin a'r un cyntaf o du allan i Ewrop ers 1,000 o flynyddoedd.

Gyda'r mwg gwyn o'r simnai dyma arwydd bod 'na Bab newydd wedi ei ethol
Er nad oedd yn cael ei weld fel un o'r ffefrynnau mae'n apelio at geidwadwyr ac diwigwyr, yn cael ei ystyried yn uniongred ym maes materion rhywiol ac yn rhyddfrydol ar gyfiawnder cymdeithasol.
Wrth annerch y miloedd dywedd y Pab Ffransis I: "Fe ddylai'r byd ddilyn llwybr cariad a brawdgarwch.
"Diolchaf am eich croeso.... Yn bennaf hoffn weddio dros Y Pab Bened XVI."
O fuan ar ôl ei ethol fe wnaeth anfon neges ar Twitter yn dweud ei fod yn "hynod falch o fod Y Pab Newydd, Ffransis I".
Mae 115 o Gardinaliaid wedi penderfynu wedi diwrnod o drafod yn yr eglwys yn Y Fatican yn Rhufain.
Dathlu
Fe ddaeth y Cardinaliaid at ei gilydd ddydd Mawrth i ethol Pab newydd wedi i'r Pab Bened XVI ymddiswyddo.
Roedd y Pab Bened wedi dweud nad oedd bellach yn ddigon cryf i arwain yr eglwys ac yntau yn 85 oed.
Dywedodd Alun Thomas, gohebydd BBC Cymru: "Mae 'na filoedd o bobl o bob cwr o'r byd yn Sgwâr San Pedr yn dathlu'r cyhoeddiad bod mwg gwyn yn llifo o'r simnai a chlychau'r ddinas yn canu.
"Roedd rhai'n darogan y byddai angen mwy o ddyddiau cyn ethol ond nid felly y bu."
Cyn i'r Cardinaliaid gyfarfod doedd na ddim awgrym clir pwy fyddai'r Pab newydd.
Gweddïo

Miloedd o bobl yn Sgwâr San Pedr i weld Y Pab newydd
Fe wnaethon nhw gynnal pedair pleidlais i ethol y 226ed Pab.
Roedd angen o leiaf 77, neu ddau draean, o'r Cardinaliaid i bleidleisio o blaid y Pab newydd.
Cyn i enw'r Pab gael ei gyhoeddi a'i ymddangosiad cyntaf cafodd wahoddiad i ymgymryd â'r cyfrifoldeb a'r Cardinaliaid yn tyngu teyrngarwch iddo.
Roedd hefyd yn gweddïo cyn bod y byd yn cael gwybod pwy oedd.
Dywedodd Archesgob Caerdydd, Y Parchedicaf George Stack: "Dwi'n croesawu ethol y Cardinal Bergoglio yn Bab Ffransis I.
"Mae ethol Pab newydd bob tro yn ddechrau newydd a dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith a hyder."
Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, ei fod yn croesawu'r Pab newydd ac yn dymuno'r gorau iddo.
"Rydym yn gobeithio y bydd yn dod â safbwynt eciwmenaidd i'r rôl, dymuniad i weithio gyda Christnogion o bob traddodiad ac ewyllys da i bobl o bob ffydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013