Dathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm
- Cyhoeddwyd
Trannoeth y fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Lloegr ac roedd gan asgellwr Cymru George North gwmni anarferol i frecwast yng Nghaerdydd.
Cafodd y llun hwn ei drydar ganddo fore Sul.
Llun arall i gael cryn ymateb ar wefan Twitter oedd un o sylwebyddion teledu yn syth ar ôl y canlyniad.
Mae'n dangos wynebau digon llwm ar John Inverdale, Clive Woodward a Jeremy Guscott - ond ar y llaw arall mae y cyn chwaraewr rhyngwladol Jonathan Davies yn wen o glust i glust.
Roedd y wen yn gydnabyddiaeth o fuddugoliaeth 0 30-3 yn erbyn Lloegr.
Buddugoliaeth ysgubol, gyda Alex Cuthbert yn sgorio dau gais.
Hon oedd y fuddugoliaeth fwyaf i Gymru yn erbyn Lloegr.
Daeth gweddill pwyntiau Cymru o Leigh Halfpenny, pedair cic gosb, ac wyth pwynt o droed Dan Biggar.
Cymru oedd ar y blaen ar yr egwyl 9-3 ond roedd Lloegr dal yn y gêm.
Yn yr ail hanner, roedd Cymru ben ac ysgwydd uwchben Lloegr.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi ennill eu pedair gem ddiwethaf yn y bencampwriaeth ar ôl colli yn y gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon.
Ar ôl y gêm dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru Rob Howley fod yn teimlad yn deimlad gwell na'r llynedd pan lwyddodd Cymru i gipio'r Gamp Lawn.
"Roedd y tîm yn anhygoel.
"Roeddem wedi siarad am ddisgyblaeth a'n hagwedd tuag at y gêm.
"I lwyddo fel yr ydym wedi llwyddo ar ôl y 30 munud cyntaf yn erbyn Iwerddon, mae'n anhygoel.
"Roedd yna ddewrder anhygoel, ro' nhw ben ac ysgwydd yn well na Lloegr."
Mae Lloegr yn gorffen yn ail yn yn bencampwriaeth.
Byddai buddugoliaeth yng Nghaerdydd wedi sicrhau'r Gamp Lawn i Loegr.
Roedd yn rhaid i Gymru ennill o fwy na saith pwynt er mwyn dal eu gafael ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cymru : 15-Leigh Halfpenny, 14-Alex Cuthbert, 13-Jonathan Davies, 12-Jamie Roberts, 11-George North, 10-Dan Biggar, 9-Mike Phillips, 1-Gethin Jenkins (Capten), 2-Richard Hibbard, 3-Adam Jones, 4-Alun Wyn Jones, 5-Ian Evans, 6-Sam Warburton, 7-Justin Tipuric, 8- Toby Faletau.
Eilyddion: 16-Ken Owens, 17-Paul James, 18-Scott Andrews, 19-Andrew Coombs, 20-Aaron Shingler, 21-Lloyd Williams, 22-James Hook, 23-Scott Williams.
Lloegr : 15-Alex Goode, 14-Chris Ashton, 13-Manu Tuilagi, 12-Brad Barritt, 11-Mike Brown, 10-Owen Farrell, 9-Ben Youngs; 1-Joe Marler, 2-Tom Youngs, 3-Dan Cole, 4-Joe Launchbury, 5-Geoff Parling, 6-Tom Croft, 7-Chris Robshaw (capten), 8-Tom Wood.
Eilyddion: 16-Dylan Hartley, 17-David Wilson, 18-Mako Vunipola, 19-Courtney Lawes, 20-James