Addewid Gweinidog Iechyd Cymru i ad-drefnu ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd newydd Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod am ddod â phroses ad-drefnu ysbytai i ben yn llwyddiannus.
Amlinellodd Mr Drakeford, AC Gorllewin Caerdydd, ei brif flaenoriaethau wrth dyngu llw ar ddechrau ei swydd newydd ddydd Llun.
Mae yn lle Lesley Griffiths wedi i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ad-drefnu ei gabinet yr wythnos diwethaf.
Mae byrddau iechyd yn cyflwyno cynlluniau dadleuol ar hyn o bryd ac mae Mr Jones wedi pwysleisio na fydd 'na newid polisi.
'Diogel a chynaliadwy'
Dywedodd Mr Drakeford fod pobl eisiau "sicrwydd" am sut y byddai'r y gwasanaeth yn edrych yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen newidiadau er mwyn gwneud y gwasanaeth yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
Eisoes mae nifer o brotestiadau wedi bod mewn gwahanol ardaloedd oherwydd y cynlluniau gafodd eu cyhoeddi.
Mae rhai cynlluniau yn golygu cymunedau yn colli gwasanaethau ac yn arwain at fwy o deithio i gael triniaethau.
Un o'r argymhellion mwya' dadleuol yw symud gofal dwys i fabanod o ddau ysbyty yn y gogledd dros y ffin i'r uned arbenigol yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.
Dywedodd Mr Drakeford: "Does gen i ddim barn eto (am gynlluniau'r gogledd) a dwi ddim wedi gweld manylion Arrowe Park eto.
"Fe fydda i'n trafod gyda'r Prif Weinidog sydd wedi ystyried y mater ac wedyn fe fydda i'n meddwl beth i'w wneud.
'Addasu'
"Dwi'n meddwl bod pobl angen gwybod beth fydd diwedd hyn," meddai ar ôl tyngu llw yn swyddfeydd y llywodraeth yng Nghaerdydd.
"Dwi eisiau gallu rhoi sicrwydd iddyn nhw.
"Unwaith mae 'na sicrwydd, dwi'n meddwl y bydd pobl yn byw gyda hynny, yn addasu i hynny ac yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith."
Ond awgrymodd hefyd y gallai byrddau iechyd wynebu problemau o ran peidio â bod yn y coch yn ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, meddai, roedd am gael gwybod yr holl fanylion ac ystyried pa wersi roedd modd eu dysgu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013