Carwyn Jones i benderfynu ar gynlluniau iechyd dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud mai fo fydd yn penderfynu ei hun a ddylid ailedrych ar gynlluniau dadleuol i symud gofal dwys i fabanod o ogledd Cymru i Loegr.
Roedd Carwyn Jones yn ymateb i bryderon gan Aelodau Cynulliad, sy'n gwrthwynebu cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i symud y gofal i Arrowe Park yng Nghilgwri.
Yn ôl Mr Jones, bydd yn gwneud penderfyniadau "yn y dyddiau nesaf".
Mae'r bwrdd iechyd yn dadlau bod yn rhaid ad-drefnu er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaethau.
Mae'r Cyngor Iechyd Cymuned lleol eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cyfeirio'r cynlluniau at Lywodraeth Cymru.
Ond dywedodd Mr Jones y gallai ymyrryd, gan ychwanegu mai fo, yn hytrach na'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths, fyddai'n gyfrifol - gan fod y mater yn effeithio'n uniongyrchol ar ei hetholaeth hi yn Wrecsam.
Etholaeth
Dywedodd: "Mae gan weinidogion yr hawl i alw'r cynlluniau yma i mewn beth bynnag, ac mae hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.
"I wneud pethau'n glir, fi fydd yn gwneud y penderfyniad gan fod etholaeth y Gweinidog yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a byddaf yn ystyried hyn dros y dyddiau nesaf."
Yn ôl Mr Jones, does dim penderfyniad wedi'i wneud o ran ad-drefnu'r gwasanaethau yn y gogledd eto, ond fe rybuddiodd yn erbyn gweld y cyfan fel "rhyw fath o gynllwyn deheuol" a'i bod yn bwysig fod gan bobl gogledd Cymru'r un mynediad i wasanaethau â phobl yn y de.
Mae nifer o Aelodau Cynulliad o'r pedair plaid yn gwrthwynebu'r cynlluniau i symud gofal dwys i fabanod o ogledd Cymru i Loegr, ond mae'r bwrdd iechyd yn dadlau mai dyma'r unig ffordd o gynnal gwasanaeth diogel a chynaliadwy.
Ymateb
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Darren Millar AC:
"Mae 'na bryderon difrifol wedi'u codi gan glinigwyr ynglŷn â'r penderfyniad i symud y gofal yma i Loegr ac rwy'n annog Mr Jones i ystyried pa mor beryglus y gallai hyn fod."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Elin Jones:
"Rwy'n falch fod y Prif Weinidog yn derbyn na all Aelod Cynulliad Wrecsam wneud y penderfyniad, pan fo un o'r ysbytai dan sylw'n rhan o'i hetholaeth.
"Gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn penderfynu datblygu gwasanaethau iechyd yng Nghymru, yn hytrach na'u trosglwyddo i system yn Lloegr, system y mae e wedi'i beirniadu'n rheolaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013