Yn gymwys i weithio: 20% o benderfyniadau'n 'anghywir'
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi dod o hyd i dystiolaeth sy'n awgrymu bod bron 20% o benderfyniadau'n ymwneud â rhai sy'n "gymwys i weithio" yn anghywir ac yn gorfod cael eu newid pan yw hawliwr yn apelio.
Roedd rhaglen Wales Today wedi gwneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae Marilyn Blakeman, 58 oed o'r Barri, yn diodde' oherwydd cyflwr sy'n effeithio ar ei hysgyfaint a'i hasgwrn cefn ac ni all gerdded ymhell.
Ond yn Nhachwedd cafodd lythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei hysbysu ei bod yn "gymwys i weithio" ac y byddai ei budd-daliadau'n dod i ben.
"Fe ges i banig llwyr," meddai.
Roedd y rhai na allai weithio oherwydd tostrwydd yn arfer cael budd-dal analluogrwydd ond mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ei ddisodli.
10%
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae bron 10% o bobl o oedran gweithio yng Nghymru'n derbyn un o'r budd-daliadau hyn.
Y cyfartaledd yn y DG yw 6.4%.
Erbyn hyn mae hawlwyr yn aml yn cael eu hasesu er mwyn penderfynu a ydyn nhw'n gymwys i weithio ai peidio.
Dywedodd Miranda French o Anabledd Cymru: "Mae pobol yn cael eu hasesu er bod ychydig o dystiolaeth feddygol gerbron yr aseswyr.
"Mae ein haelodau ni'n dweud nad yw'r adroddiadau'n adlewyrchu yr hyn gafodd ei ddweud na phrofiad yr hawliwr."
Yn sgil diwygio'r system fudd-daliadau cafodd Mrs Blakeman ei chamasesu.
Ar goll
Mae wedi honni bod hyn wedi digwydd am fod ychydig o'i thystiolaeth feddygol ar goll.
Ei chyn-ŵr, Steve, gefnogodd hi'n ariannol am bedwar mis a hanner cyn iddi apelio ac ennill.
Cafodd tua hanner y rhai gafodd eu hasesu wybod eu bod yn "gymwys i weithio" ac mae eu budd-daliadau wedi dod i ben.
Y llynedd apeliodd 44% yn erbyn y penderfyniad ac o'r rhain llwyddodd 41% wrth apelio.
Dywedodd Darren Williams o undeb y PCS: "Ers 2010 mae 1,250 yn llai o staff yn yr adran yng Nghymru.
'Chwe achos'
"Bob dydd rhaid i bob gweithiwr ddelio â chwe achos.
"Wrth gwrs, maen nhw'n anelu at y penderfyniad gorau ond dyw'r pwysau yn anochel ddim yn arwain at y canlyniad gorau."
Tra bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud bod y broses asesu wedi gwella ers 2010, mae Anabledd Cymru wedi dweud mai'r rhai â "chyflyrau cudd" fel cyflwr niwrolegol sy'n cael eu camasesu o hyd.
Dywedodd fod y rhai oedd yn apelio ac yn gorfod aros am fwy na chwe mis wedi cynyddu.
Y llynedd, meddai Gwasanaeth y Tribiwnlysoedd, y cyfnod hiraf yng Nghymru oedd 144 o wythnosau.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud eu bod yn gofyn am adborth oddi wrth farnwyr tribiwnlysoedd lle mae'r apêl yn llwyddiannus fel bod modd gwella'r broses benderfynu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013