Addo gweithredu am beryglon llifogydd yn aber Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddelio gyda llifogydd ar hyd aber Dyfrdwy yn Sir Y Fflint a Chonwy dros y can mlynedd nesaf.
Mae'r cynigion yn cynnwys gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd ar yr arfordir rhwng Sealand, ger Caer, a Phensarn, ger Abergele.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru'n dweud bod ei strategaeth i daclo peryglon llifogydd llanw yn cael ei gynllunio i leihau'r risg o lifogydd i fwy na 6,000 o dai.
Mae Llywodraeth Cymru'n gwario £47 miliwn ar ddelio gyda pheryglon llifogydd dros y flwyddyn nesaf.
Mae Strategaeth arfaethedig rheoli perygl llifogydd Dyfrdwy Lanwol yr Asiantaeth yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd a swyddogion cynghorau yn ardaloedd Y Fferi Isaf, Cei Connah, Y Fflint a Threffynnon.
Dywedodd David Edwell o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru y byddai'r asiantaeth yn darparu gwybodaeth am y buddsoddiad sydd ei angen i wireddu'r cynlluniau i Lywodraeth Cymru.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid, megis yr awdurdodau lleol a thirfeddianwyr, i sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn cael eu cynnal a'u gwella yn ôl yr angen, a bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cymryd y strategaeth rheoli perygl llifogydd i ystyriaeth.
"Yn ogystal ag edrych ar sut y gallwn ni wella amddiffynfeydd rhag llifogydd byddwn hefyd yn helpu pobl i addasu i beryglon llifogydd y dyfodol fel eu bod yn barod ac yn medru ymateb."
Mae'r aber yn gartref i dros 100,000 o adar hirgoes ac 20,000 o adar dŵr ac mae'r cynllun yn cydnabod ei rôl cadwraeth natur.
Mae cynlluniau dros y 20 mlynedd nesaf yn cynnwys gwella amddiffynfeydd yng Nghei Connah a chodi'r amddiffynfeydd presennol yn Greenfield a Thalacre yn uwch.
Mae'r adroddiad yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013