Galw am newid polisïau iaith

  • Cyhoeddwyd
Heini Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heini Gruffydd yn dweud bod yna filoedd o swyddi y gallai Cymry Cymraeg eu cael ar y ddau gyngor

Daeth galwad ar i Gynghorau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin newid eu polisi iaith er mwyn cryfhau'r Gymraeg yn y ddwy sir.

Yn ôl Heini Gruffydd, cadeirydd mudiad Dyfodol i'r Iaith, petai staff y cynghorau yn defnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith, byddent yn magu hyder ac yn fwy tebygol o'i defnyddio'n gymdeithasol ac yn y cartre'.

Meddai Mr Gruffydd: "Yng Ngheredigion ac yng Nghaerfyrddin, pe bai'r siroedd hynny'n penderfynu gweinyddu yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog, bydde gyda chi filoedd ar filoedd o swyddi da i bobl fydde wedi cael addysg Gymraeg.

"Pe bai rhai cannoedd o swyddi yno yn gweinyddu yn y Gymraeg, bydde hyder bobl yn yr iaith yn codi a bydde nhw'n defnyddio'r Gymraeg wedyn, nid yn unig fel rhyw atodiad i'w bywyd, ond yn ganolog i'w bywyd bob dydd."

Disgrifiad,

Adroddiad Owain Evans

Cymry Cymraeg

Mewn ymateb, roedd Arweinydd cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, yn cydnabod bod lle i wella o ran defnydd y Gymraeg o fewn y cyngor, ond ei bod yn hapus bod ganddyn nhw'r polisi iaith cywir.

Wrth siarad ar raglen y Post Cynta fore Gwener, dywedodd y cynghorydd ap Gwynn: "Mae 'na dros 60% o'n staff eisoes yn Gymry Cymraeg - mwy wrth edrych ar yr ysgolion, lle mae'r rhan helaetha' yn siarad Cymraeg. Mae 'na ganran uchel ohonyn nhw yn Gymry Cymraeg ac yn gweithio trwy'r Gymraeg eisoes.

"Mewn unrhyw gyfarfod cyhoeddus gan y cyngor, gall unrhyw un ddewis pa iaith maen nhw eisiau gwrando arni - mae 'na gyfieithydd yma drwy'r amser.

"Ond mae'n rhaid i ni ystyried fod 'na bump aelod o'r cyngor sydd ddim yn siarad Cymraeg ac mae angen darparu ar eu cyfer nhw hefyd."

Yn ôl cyngor Sir Gâr, mae ganddyn nhw wasanaeth dwyieithog ar gael i unrhyw un sy'n ffonio'r Cyngor, ac mae cyrsiau ar gael i helpu staff i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae'r pleidiau ar y cyngor wedi sefydlu grwp i ystyried canlyniadau'r cyfrifiad. Bydd yn gweithio yn agos gyda Comisiynydd y Gymraeg. Bydd y grwp yn ystyried pob syniad ac yn adrodd yn ôl mewn rhai misoedd."