Disgwyl mwy o eira ar ôl i'r tywydd achosi trafferthion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiadau am effaith y tywydd ddydd Gwener gan ohebwyr BBC Cymru.

Mae disgwyl mwy o eira trwm yng ngogledd a chanolbarth Cymru wedi i gannoedd o ysgolion orfod cau ddydd Gwener.

Mae'r tywydd garw hefyd wedi achosi problemau i deithwyr, gyda nifer o ffyrdd ynghau.

Ar un adeg dywedodd cwmni Scottish Power bod tua 500-600 o gwsmeriaid yng ngogledd-ddwyrain y wlad heb gyflenwad trydan.

Yr ardal waethaf yw dyffryn Dyfrdwy, ond mae trafferthion hefyd yn Wrecsam a Threffynnon.

Dywed y cwmni bod peirianwyr mewn cerbydau 4X4 allan yn ceisio cywiro pethau, ond mae amodau teithio yn anodd iawn ac mae'n anodd cyrraedd rhai mannau gwledig gan fod ffyrdd ar gau.

Mae Scottish Power wedi ymddiheuro i gwsmeriaid am y trafferthion.

Y rheswm dros golli cyflenwadau yw coed yn taro yn erbyn gwifrau trydan, a rhai gwifrau wedi torri oherwydd yr eira.

Gallai rhannau o Gymru weld y trwch mwya' o eira ar gyfer mis Mawrth ers 30 o flynyddoedd, ac mae 'na rybudd y gallai eira lithro oddi ar lethrau Eryri.

Roedd y gwyliau Pasg wedi dechrau diwrnod ynghynt i nifer o ddisgyblion, gyda dros 200 o ysgolion wedi cau.

Rhybudd oren

Yn ôl arbenigwyr, mae disgwyl rhagor o eira, glaw a gwyntoedd cryfion dros nos a dydd Sadwrn ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am eira.

Gogledd ddwyrain Cymru a welodd yr eira gwaetha' ddydd Gwener, yn enwedig Sir y Fflint.

Doedd rhai peiriannau graeanu ddim yn gallu cyrraedd nifer o leoedd gan fod coed wedi syrthio ar y ffyrdd.

Roedd y sefyllfa hefyd yn wael yng nghanolbarth Cymru.

Bu'n rhaid i dros 200 o ysgolion gau oherwydd yr eira - pob un o rai Sir y Fflint, yn ogystal â nifer yn Wrecsam a Phowys.

Penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ganslo apwyntiadau i gleifion allanol yn Ysbyty Maelor Wrecsam gan fod amodau gyrru yn parhau yn eithriadol o anodd yn yr ardal.

Teithio

Roedd nifer o ffyrdd wedi cau ddydd Gwener, gan gynnwys yr A458 yn Oakenholt, ger Y Fflint, a Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych.

Dywedodd cwmni trenau Virgin nad oedd gwasanaethau rhwng Fflint a Chaer am gyfnod wedi i geblau trydan ddisgyn ar y lein oherwydd y gwynt.

Cyhoeddodd cwmni bysiau GHA nad oedd unrhyw un o'u gwasanaethau hwythau yn weithredol yn ardaloedd Wrecsam a Sir Ddinbych.

Roedd 'na oedi hefyd ar gychod Stena Line rhwng Caergybi a Dulyn.

Achub

Disgrifiad,

Cafodd y ddau, oedd heb y cyfarpar cywir, eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn cyrch bedair awr.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn annog pawb heblaw'r dringwyr mwyaf profiadol i gadw oddi ar y mynyddoedd uchaf dros y Pasg oherwydd y tywydd drwg.

Daeth y rhybudd wrth i Dîm Achub Mynydd Llanberis gyhoeddi lluniau o gyrch ar Yr Wyddfa ddydd Iau, pan fu'n rhaid achub dynes 41 oed a'i mab 17 oed oddi ar y mynydd.

Hefyd bu'n rhaid achub pedwar llanc yn eu harddegau a'u hyfforddwr wedi iddyn nhw fynd yn sownd yn eu bws mini ar ffordd fynyddig nos Iau.

Aeth Tîm Achub Mynydd Longtown o'r Fenni i gynorthwyo'r pump ar ffordd Bwlch yr Efengyl rhwng y Fenni a'r Gelli Gandryll.

Cafodd y llanciau o Bont-y-pŵl eu cludo yn ôl i Ganolfan Awyr Agored Cusop lle'r oedden nhw'n aros.

Yn ôl Rhian Haf, o adran dywydd BBC Cymru, dyw hi ddim yn anarferol i gael eira ym mis Mawrth.

"Da ni'n llawer mwy tebyg o gael eira adeg y Pasg nag ydan ni adeg y Dolig, gan fod y gwynt yn fwy tebyg o chwythu o'r dwyrain, yn dod ag aer oer iawn o gyfeiriad Scandinafia a Rwsia," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae eira trwm wedi achosi problemau ar nifer o ffyrdd, fel yr un yma yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint