Llafur: Rhybudd am ddatganoli

  • Cyhoeddwyd
Owen Smith AS
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Owen Smith bod Cymru'n dibynnu ar gefnogaeth rhannau eraill o Brydain

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid Owen Smith wedi rhybuddio am beryglon datganoli yn ei araith yng nghynhadledd wanwyn Llafur Cymru yn Llandudno.

Dywedodd Mr Smith, yr aelod seneddol dros Bontypridd, y dylid bod yn wyliadwrus oherwydd y gallai datganoli "arwain at raniadau a glastwreiddio egwyddorion sylfaenol Llafur a'r undeb ariannol sydd yn caniatáu i ni eu rhoi nhw ar waith".

Ond, meddai, roedd e'n ffyddiog na fyddai Llafur yng Nghymru yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Yn ei araith yntau yn gynharach, un o brif themâu'r Prif Weinidog Carwyn Jones oedd na all datganoli aros yn ei unfan, a'i fod yn edrych ymlaen at y drafodaeth gyda'i gyd-wleidyddion, a'i gyd-Lafurwyr ynglŷn â'r ffordd ymlaen.

Ond cyfeirio at "lanw a thrai" datganoli wnaeth Owen Smith.

'Angen y gefnogaeth'

Ac roedd yna rybudd arall yn araith Mr Smith, wrth iddo atgoffa'r cynadleddwyr yn Llandudno o ganfyddiad y Comisiwn Silk bod 'na fwlch mawr rhwng yr arian sy'n cael ei godi yng Nghymru, sef £18 biliwn, a'r arian sy'n cael ei wario, rhyw £30biliwn.

Doedd dim cywilydd, meddai, yn y diffyg ariannol hwnnw, sy'n adlewyrchiad o gefndir diwydiannol Cymru, a'r her mae wedi ei wynebu ar hyd y blynyddoedd.

Ond fe fyddai hi'n anonest, ychwanegodd, i beidio derbyn bod Cymru yn dibynnu yn drwm ar gefnogaeth rhannau eraill o Brydain ac yn elwa oherwydd hynny.

Dim ond cenedlaetholwyr, meddai, fyddai'n gwadu'r angen am barhad y gefnogaeth a'r drefn honno ac yn awgrymu bod modd i Gymru sefyll ar ei phen ei hun.

Cyllideb

Beirniadodd Mr Smith hefyd Lywodraeth San Steffan, gan gyfeirio sawl gwaith at gyllideb y Canghellor George Osborne. Dywedodd bod y Ceidwadwyr yn meithrin tacteg o "wahanu a rheoli", yn gosod y "cyfoethog yn erbyn y tlawd...rhai sydd gydag uchelgais yn erbyn rhai maen nhw'n honni sydd yn ddi-uchelgais".

Dywedodd hefyd bod Carwyn Jones a'i Weinidogion yn llwyddo yng Nghymru ac y dylai'r Blaid lwyddo hefyd yn San Steffan. Amlinellodd polisïau "Un genedl" Llafur, fyddai yn gymorth i sbarduno'r economi, megis cyfradd treth 10 ceiniog, a lleihau treth ar werth.