Carwyn Jones yn cyfiawnhau ymgyrch i gyflogi mwy o feddygon
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyfiawnhau ymgyrch i gyflogi mwy o feddygon wedi iddo gael ei herio ynglŷn â chau ysbytai.
Yn y Sesiwn Gwestiynau cyntaf yn nhymor newydd y Cynulliad Cenedlaethol, cafodd Mr Jones ei herio ddydd Mawrth ynglŷn â chau wardiau yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Mynnodd fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwneud eu gorau wedi toriadau wnaed gan Lywodraeth San Steffan.
Cafodd ward ym Mronglais ei chau am bythefnos ym mis Awst oherwydd prinder staff a bu'n rhaid cau ward iechyd meddwl fis ynghynt.
Am nad oedd 'na ddigon o feddygon profiadol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot bu'n rhaid dod a'r gwasanaeth gwasanaethau brys i ben a'u trosglwyddo oddi yno i ysbytai cyfagos.
Yn gynharach eleni, dechreuwyd ymgyrch i gyflogi mwy o feddygon, rhan o'r fargen oedd addewid i ddarparu llety am ddim.
'Hygrededd'
Yn y Senedd, gofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams faint o feddygon oedd wedi cael eu cyflogi; ym mha arbenigedd ac i ba ysbytai.
Ateb y Prif Weinidog oedd na fyddai'r ffigyrau ar gael hyd ddiwedd yr ymgyrch.
Hawliodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies fod 'na gwestiynau ynglŷn â hygrededd polisïau'r Llywodraeth ynglŷn ag ysbytai a meddygon.
Gwrando ar safbwynt sefydliadau Coleg y Nyrsys sy'n bwysig ym marn aelod Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Hyd a lledrith ym marn Mr Jones oedd ymgais y Ceidwadwyr i ymbellhau oddi wrth doriadau'r glymblaid yn San Steffan.
Llafur ddaru ddyfeisio'r gwasanaeth iechyd meddai ac maen nhw'n ymrwymo i barhau i gynnig gwasanaeth, er gwaethaf y toriadau o gyfeiriad San Steffan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2012
- Cyhoeddwyd8 Medi 2012
- Cyhoeddwyd16 Awst 2012
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd4 Medi 2012