Balchder Wrecsam o ennill Tlws FA Lloegr yn Wembley
- Cyhoeddwyd
Wrecsam yw'r clwb cyntaf o Gymru i ennill Tlws FA Lloegr.
Fe wnaethon nhw hynny mewn gêm ddramatig yn Wembley ddydd Sul yn erbyn Grimsby.
Dyma oedd ymweliad cyntaf y Dreigiau â Wembley, gydag Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd wedi bod yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Wedi'r 90 munud roedd y ddau dîm sy'n chwarae yn Uwchgynghrair y Blue Square yn gyfartal 1-1 ac wedi'r amser ychwanegol doedd dim modd eu gwahanu.
Ond Wrecsam oedd yn fuddugol wedi'r ciciau o'r smotyn wedi ergydion cywir o'u cymharu â dau ymgais gwael cyntaf Grimsby.
Yn ôl rheolwr-chwaraewr Wrecsam, Andy Morrell, mae'r fuddugoliaeth mor bwysig i'r clwb ac mae'n "fuddugoliaeth i'r cefnogwyr" sydd wedi bod mor gefnogol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
'Dal i fynd, dal i ymosod'
Ond pwysleisiodd mai ennill dyrchafiad yn ôl i'r gynghrair bêl-droed sydd bwysica'.
"Mae hi wedi bod yn ddeuddydd gwych. Dwi'n mynd i gofio hyn am amser hir iawn," meddai.
"Dwi'n crynu, mae'n anghredadwy.
"Doeddwn i ddim yn meddwl y bydden ni'n llwyddo, ond roedden ni'n wych.
"Fe wnaethon ni ddal i fynd, dal i ymosod ond roedd eu golwr nhw'n wych.
"Rhaid edrych ymlaen rŵan at y gemau yn y gynghrair i sicrhau dyrchafiad."
Ymhlith y rhai wnaeth longyfarch y clwb yr oedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd fod y canlyniad yn "fuddugoliaeth hanesyddol".
"Llongyfarchiadau lu i Wrecsam ar eu buddugoliaeth hanesyddol," meddai.
"Mae llwyddiant y clwb, nid yn unig yn wych i Wrecsam ond hefyd yn fwy o newyddion gwych i bêl-droed Cymru ac i chwaraeon yng Nghymru."
Dyrchafiad
Fe wnaeth dalu teyrnged i Morrell wrth gyfeirio at gyfnod anodd diweddar i'r clwb adawodd y gynghrair bêl-droed yn 2008.
"Mae Andy Morrell wedi gwneud gwaith gwych, arwain y clwb drwy gyfnod anodd a sicrhau eu bod yn enillwyr.
"Drwy hyn ac ymdrechion y chwaraewyr, mae Tlws FA Lloegr ar ei ffordd i Gymru am y tro cyntaf erioed.
"Llongyfarchiadau i'r Dreigiau."
Mae Wrecsam yn obeithiol am ddyrchafiad o'r Blue Square ac fe fyddan nhw'n teithio i Hyde ddydd Sadwrn.
Mae Wrecsam yn drydydd yn y tabl, pum pwynt tu ôl i Kidderminster sydd ar y brig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012