Penderfynol o gyrraedd Wembley
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Wrecsam sy'n ceisio cyrraedd Wembley ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA wedi bod yn brwydro'r elfennau a thrafferthion eraill er mwyn mynd i'r gêm fawr.
Gydag 80 o fysys yn gadael Wrecsam fore Sul, fe ddeffrodd y cefnogwyr i weld bod rhwng eira wedi disgyn dros nos.
Mae ffyrdd rhewllyd wedi creu trafferthion hefyd gydag un bys mewn gwrthdrawiad wrth i gerbyd arall lithro ger Croesoswallt rhyw 20 ar ôl cychwyn eu taith.
Fe gafodd y cefnogwyr fws arall, ond fe dorrodd hwnnw i lawr ger Amwythig.
Ond mae'r cefnogwyr yn benderfynol o gyrraedd, ac mae trydydd bws wedi eu codi ger Telford ac maen nhw wedi parhau â'u taith.
Mae disgwyl i dros 17,000 o gefnogwyr Wrecsam fod yn Wembley i gefnogi'r tîm.
150 bws
Dywedodd Peter Jones, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam: "Yn amlwg mae llawer wedi cael eu dal yn yr eira - mae'n eitha' gwael.
"Ond rydym yn benderfynol o fynd. Mae 84 o fysys o'r clwb a rhai eraill answyddogol hefyd - fe fyddwn i'n meddwl bod tua 150 o fysys yn mynd i Lundain."
Mae rhagolygon y tywydd yn well ar gyfer dydd Sul, gan addo prynhawn sych gydag ond ychydig gawodydd eira mewn mannau.
I'r rhai sy'n methu mynd, daeth cyhoeddiad brynhawn Sadwrn y bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C yn dilyn cais funud olaf gan y darlledwr.
Rownd derfynol Tlws FA Lloegr fydd ymweliad cyntaf Wrecsam â Wembley yn eu hanes o 149 o flynyddoedd.
Ymhlith y rhai fydd yn bresennol mae Tom Hughes, sy'n 96 oed ac yn gefnogwr Wrecsam ar hyd ei oes.
Fe welodd Wrecsam yn chwarae am y tro cyntaf yn 1921.
'Hanesyddol'
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones a Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler ymlith y rhai sydd wedi dymuno'n dda i'r tîm.
Dywedodd Mr Jones: "Does dim dianc rhag y ffaith bod y tîm wedi bod ar daith gythryblus dros y blynyddoedd diweddar, ond mae'r cefnogwyr wedi aros yn driw drwy'r cyfan.
"Mae taith gyntaf y Dreigiau i Wembley yn un hanesyddol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Tlws yr FA yn dod i Gymru am y tro cyntaf."
Wrecsam fydd y pedwerydd clwb o Gymru i chwarae yn Wembley ers ychydig dros flwyddyn.
Enillodd Abertawe Gwpan Capital One yno fis yn ôl wedi i Gaerdydd golli yn rownd derfynol yr un gystadleuaeth y llynedd, ac fe gollodd Casnewydd yn rownd derfynol Tlws FA Lloegr yn erbyn Caer Efrog yn 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012