Effaith haf gwlyb ar safon traethau

  • Cyhoeddwyd
Rhossili BayFfynhonnell y llun, National Trust
Disgrifiad o’r llun,

Dyfarnwyd Bae Rhossili fel un o'r traethau oedd â'r safon gorau posib o ddŵr

Mae llai o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o'i gymharu â llynedd, yn ôl y Gymdeithas Gadwraeth Forwrol (CGF).

Mae rhestr o'r traethau gorau ym Mhrydain yn nodi bod llai o draethau ledled y wlad yn addas ar gyfer ymdrochi wedi haf gwlyb y llynedd.

Dim ond 98 o 153 o draethau nofio Cymru oedd â'r safon gorau posib yn 2012, yn ôl y gymdeithas.

Mae hyn 23 yn llai na'r flwyddyn flaenorol.

Methodd pump o'r traethau â chyrraedd y safonau elfennol - sef Pwllgwaelod yn Sir Benfro, Y Rhyl, Criccieth, Penmorfa yn Llandudno, ac un o draethau Aberogwr yn Sir Penybont.

Mae'r CGF yn credu bod y glaw di-baid a'r llifogydd wedi arwain at fwy o facteria yn y dŵr.

Gall y llygredd ddod o ffynonellau amaethyddol a threfol, tanciau septig, trafferthion gyda gwaith plymio, baw ci a dŵr o'r stormydd.

Dywedodd rheolwr rhaglen llygredd CGF, Dr Robert Keirle, bod angen monitro carthffosiaeth yn well a gweithredu i leihau'r llygredd o ffermydd ac ardaloedd poblog.

"Y newyddion da i Gymru yw ar ôl i CGF lobïo Dŵr Cymru, fel rhan o'n aelodaeth o'r panel cynghorol amgylcheddol annibynnol, bydd y gynhadledd gyntaf erioed ar ddŵr nofio yn cael ei chynnal eleni," meddai.

Mae'r CGF hefyd wedi argymell llawer llai o draethau nofio yn Lloegr a'r Alban.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol