Ailagor Tŷ Dyffryn ar ôl gwaith adfer gwerth £1 miliwn
- Cyhoeddwyd
Bydd Tŷ Dyffryn ym Mro Morgannwg yn ailagor i'r cyhoedd am y tro cynta' ers 17 o flynyddoedd, wedi gwaith adfer gwerth £1 miliwn.
Dyw'r safle, a atgyweiriwyd gydag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, erioed wedi cael ei agor yn llawn i'r cyhoedd tan hyn.
Ond o ddydd Gwener ymlaen bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ymweld â phum ystafell sydd wedi'u hatgyweirio yn y tŷ, yn ogystal â'r gerddi adnabyddus.
Mae'r tŷ yn cael ei agor yn swyddogol am 11am Dydd Gwener y Groglith, gan Gadeirydd Cronfa Drefatadaeth y Loteri, Dr Manon Williams, a Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Mae'r ystafelloedd newydd ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf, ac mae 'na seddi yn y rhan fwya' ohonynt er mwyn i ymwelwyr gael mwynhau ysblander y gerddi.
Yn ogystal, mae 'na ystafell yn cyflwyno hanes y gerddi a nifer o'r planhigion yno.
'Cam pwysig'
Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr rannu eu hatgofion nhw o'r tŷ pan oedd arfer â bod yn ganolfan gynadleddau.
"Rydym yn falch iawn o agor y Tŷ yng Ngerddi Dyffryn i'r cyhoedd, wedi i reolaeth o'r safle gael ei drosglwyddo i ni'n ddiweddar," meddai Mr Albert.
"Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn gwerthfawrogi faint o newid sydd 'na wedi'r holl waith gan bartneriaid y prosiect.
"Mae hyn yn gam pwysig arall yn ein hymgais i sicrhau fod Gerddi a Thŷ Dyffryn yn un o brif atyniadau Cymru ac yn lle arbennig ar gyfer pawb."
Ers 1994 mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyfrannu dros £6 miliwn i atgyweirio'r safle.
"Rydym wrth ein boddau ein bod wedi chwarae rhan wrth ddiogelu'r safle gwych hwn fel bod cenedlaethau i ddod yn gallu crwydro a mwynhau," meddai Dr Williams.
"Mae'r Tŷ yn symbol o'n hetifeddiaeth ddiwydiannol. Bydd ailagor Tŷ Dyffryn yn golygu bod pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn cael gwybod am y stori ddiddorol, ac yn sicrhau bod y safle yn cyflawni ei botensial o fewn cymuned a diwydiant ymwelwyr de Cymru."
Yn ogystal â Chronfa Dreftadaeth y Loteri, mae nifer o gyrff eraill wedi bod yn rhan o'r prosiect, gan gynnwys Llywodraeth Cymru/CADW, cyngor Bro Morgannwg a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd dros 70 o wirfoddolwyr hefyd wedi helpu gyda'r gwaith atgyweirio a bydd nifer ohonyn nhw'n rhan o'r agoriad swyddogol ddydd Gwener, yn hebrwng ymwelwyr o gwmpas y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2013