Oriel: 'Y gwleidydd dylanwadol'
- Cyhoeddwyd

Margaret Thatcher oedd Prif Weinidog Prydain rhwng 1979 a 1990

Cafodd Margaret Hilda Roberts ei geni yn Grantham, Sir Lincoln, yn 1925, yn ferch groser lleol

Yn 1951 fe briododd Denis Thatcher, gŵr busnes, a dechreuodd astudio ar gyfer arholiadau cyn dod yn fargyfreithiwr yn 1953, yr un flwyddyn â geni ei hefeilliaid, Mark a Carol

Bu'n ymgyrchu i ennill sedd Seneddol yn 1951 cyn ennill sedd Finchley yn 1959. Yma mae'n trafod gyda dyn clirio simnai yn Dartford

Wrth ennill etholiad 1979 hi oedd y wraig gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Prydain ac addawodd y byddai'r Ceidwadwyr yn torri treth incwm, yn lleihau gwariant cyhoeddus ac yn ei gwneud yn haws i bobl brynu eu tai eu hunain yn ogystal â lleihau grym yr undebau

Yn ystod ei chyfnod fel Prif Weinidog cafodd ei disgrifio fel y "wraig haearn" oherwydd ei bod yn benderfynol iawn

Roedd yr hyn wnaeth hi cyn ac yn ystod Rhyfel Ynysoedd Y Falklands yn enghraifft o'i phenderfynoldeb.

Fe oroesodd ymosodiad terfysgol yn 1984 wedi i'r IRA osod bom yng Ngwesty'r Grand yn Brighton yn ystod cynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr. Cafodd pump o bobl eu lladd.

Roedd ganddi berthynas arbennig gydag Arlywydd America, Ronald Reagan. Fe wnaeth hi ddisgrifio ei farwolaeth yn 2004 fel "Americanwr arbennig a enillodd y Rhyfel Oer".

Cychwynnodd ei harweinyddiaeth ddadfeilio wrth greu rhwygiadau o fewn y blaid dros Ewrop a threth y pen

Yn 1990 fe adawodd Downing Street am y tro olaf fel Prif Weinidog ar ôl i John Major ennill ras arweinyddol y blaid

Yn 2007 hi oedd y cyn-brif weinidog byw cyntaf i gael ei hanrhydeddu gyda chofeb efydd yn Nhŷ'r Cyffredin

Er iddi ddiodde' sawl strôc, a effeithiodd ar ei meddwl tymor byr, fe aeth i ddigwyddiadau cyhoeddus o hyd ac aeth i weld David Cameron yn Downing Street ar ôl iddo ennill yr etholiad yn 2010

Yn ôl rhai, hi oedd y gwleidydd Prydeinig mwya’ dylanwadol ers Winston Churchill ac roedd yn un o ffigyrau gwleidyddol mwya' yr 20fed Ganrif.