Ambiwlansys yn disgwyl am flynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Mae ambiwlansys wedi treulio bron 55,000 o oriau yn disgwyl y tu allan i ysbytai Cymru dros gyfnod o chwe mis, yn ôl ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru.
Mae criwiau felly wedi treulio 2269 diwrnod - dros chwe blynedd - yn disgwyl i drosglwyddo cleifion i adrannau brys ysbytai Cymru.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod y cynnydd mewn oedi oherwydd y "pwysau sylweddol" sy'n wynebu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn datrys y broblem "allai fod yn beryglus".
Maen nhw'n dweud y gallai cleifion fod mewn perygl gan na all ambiwlansys ymateb i argyfwng yn rhywle arall pan maen nhw'n disgwyl y tu allan i ysbyty.
Pum awr a hanner
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr oedi hir yn "annerbyniol", ond roedden nhw yn mynnu hefyd bod cleifion sydd angen triniaeth ar frys yn cael eu gweld o fewn hanner awr.
Daeth y ffigyrau i law BBC Cymru yn dilyn cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, ac maen nhw'n dangos bod ambiwlansys wedi gorfod aros am fwy na hanner awr ar 24,346 achlysur yn y chwe mis hyd at ddiwedd mis Chwefror.
Yn ôl targedau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fe ddylai cerbydau drosglwyddo cleifion i ofal yr ysbyty o fewn 15 munud.
Yr oedi hiraf a gafwyd yn ystod y cyfnod oedd 5 awr 39 munud.
Mae adroddiad diweddaraf Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dangos iddyn nhw ond cyrraedd 56.9% o drosglwyddiadau i ysbytai o fewn 15 munud, o'i gymharu â'r targed cenedlaethol o 95%.
Yn flaenorol mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi amcangyfrif cost o £76 am bob awr sy'n cael ei golli wrth i ambiwlans aros y tu allan i ysbyty, felly fe allai'r oedi diweddaraf fod wedi costio ychydig dros £4.1 miliwn.
'Pryderus iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth: "Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn bryderus iawn am yr oedi sydd wedi digwydd yn ddiweddar, ac rydym yn parhau i chwarae rôl allweddol i sicrhau bod oedi fel hyn yn dod i sylw rheolwyr yn yr ysbytai dan sylw fel y gall cynlluniau gael eu gweithredu i atal yr oedi.
"Rydym yn gweithio'n galed gyda'r holl fyrddau iechyd er mwyn cyfathrebu gyda staff ysbytai er mwyn blaenoriaethu'r cleifion sydd angen yr help mwyaf.
"Mae criwiau ambiwlans yn parhau i ddarparu gofal clinigol i gleifion wrth iddyn nhw aros i gael mynd i ysbytai, ac rydym yn darparu staff clinigol pan yn bosib i ofalu am gleifion mewn adrannau brys ysbytai o gefnogi nyrsys a staff meddygol yn ysbytai."
'Cydweithio'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford bod delio gyda phwysau mewn adrannau brys yn flaenoriaeth yn y flwyddyn i ddod.
Fe fydd adolygiad o berfformiad a strwythur y gwasanaeth ambiwlans, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflwyno i weinidogion yn ddiweddarach ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae oedi hir wrth drosglwyddo cleifion yn annerbyniol, ac rydym yn disgwyl i'r holl fyrddau iechyd gydweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans i leihau'r oedi ac i barhau i ddarparu gofal effeithiol yn ystod unrhyw oedi.
"Mae'n bwysig nodi bod hon yn broblem drwy'r DU ac yn rhyngwladol, ac mae mwyafrif y cleifion yng Nghymru sydd ag angen clinigol i gael eu trosglwyddo i ofal staff ysbyty yn cael eu trosglwyddo o fewn 30 munud.
"Yn anffodus mae yna adegau pan mae oedi'n digwydd wrth drosglwyddo claf i ofal staff ysbyty."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013