Cau Pont Briwet am bedair wythnos
- Cyhoeddwyd
Bydd Pont Briwet, rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau, ynghau am tua phedair wythnos o 15 Ebrill.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd SP Power (Scottish Power) yn cynnal gwaith paratoadol cyn adeiladu pont newydd.
Os bydd yn bosib agor y bont am gyfnodau byr yn ystod y pedair wythnos, bydd arwyddion "pont ar agor" yn cael eu gosod.
Mae Pont Briwet yn cario trenau a cheir dros Afon Dwyryd.
Mae'r bont bresennol yn 150 oed ac yn cael ei hystyried yn anaddas ar gyfer trafnidiaeth yr 21ain Ganrif.
2015
Bydd y bont newydd yn 18 metr ar draws, o'i gymharu gyda'r 8.5 metr presennol.
Bydd yn cael ei hadeiladu mewn rhannau penodol i sicrhau na fydd effaith ar wasanaethau trên a bydd pont dros dro hefyd yn cael ei chodi ar gyfer cerbydau.
Disgwylir i'r bont newydd agor yn 2015.
Cafwyd dros £9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, sydd wedi ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â Network Rail, Cyngor Gwynedd, a chonsortiwm trafnidiaeth canolbarth Cymru Trac i wireddu'r prosiect.
Bydd y bont newydd yn parhau i gario trac rheilffordd sengl ond bydd hefyd yn cynnwys priffordd gyhoeddus ddwyffordd ynghyd a llwybr beicio i gymryd lle'r un lôn bresennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012