Y gwaith o godi Pont Briwet newydd i gychwyn yn fuan
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y gwaith yn dechrau'n fuan i godi pont reilffordd newydd a phont newydd i gerbydau a cherddwyr dros aber Afon Dwyryd, rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau.
Mae'r cytundeb, gwerth £19.5 miliwn i godi'r pontydd, wedi cael ei roi i gwmni o dde Lloegr.
Yn ôl gwybodaeth ddaeth i law Post Cyntaf, fe fydd y gwaith paratoi ar Bont Briwet yn dechrau yn syth.
Mae'r bont bresennol yn 150 oed ac yn gwbwl anaddas ar gyfer trafnidiaeth yr 21ain Ganrif.
Cafwyd dros £9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, sydd wedi ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â Network Rail, Cyngor Gwynedd, a chonsortiwm trafnidiaeth canolbarth Cymru Trac i wireddu'r prosiect.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Roberts, ei fod yn falch fod y gwaith yn cychwyn.
'Dyddiau gwell'
Fe ddisgrifiodd y cynllun fel un "hynod bwysig" i ardal Meirionnydd.
"Er bod yr hen Bont Briwet wedi gwasanaethu'r ardal yn dda ers bron i 150 o flynyddoedd, mae'r bont wedi gweld dyddiau gwell," meddai.
"Bellach tydi o ddim yn addas ar gyfer anghenion trafnidiaeth y dyddiau yma.
"Y ffaith amdani ydi, chafodd y bont ddim ei hadeiladu ar gyfer y llwyth traffig mae bellach yn ei chario bob diwrnod.
"Pan fydd hi'n agor yn 2015, bydd y Bont Briwet newydd yn darparu cyswllt allweddol ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol yr ardal a bydd yn sicrhau amseroedd siwrne byrrach ar gyfer aelodau'r cyhoedd a busnesau lleol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Network Rail, bod y cynllun yma yn cysylltu nifer o brosiectau gwella eraill yn y gogledd a fydd yn darparu siwrnai well ac yn rhoi hwb i economi'r ardal.
"Bydd y gwaith gyda Phont Briwet yn ei gwneud hi'n haws i deithio rhwng Harlech, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd tra mae'r gwaith pwysig yma yn cael ei gwblhau."
Milltiroedd ychwanegol
Bydd y bont newydd yn parhau i gario trac rheilffordd sengl ond bydd hefyd yn cynnwys priffordd gyhoeddus ddwyffordd ynghyd a llwybr beicio i gymryd lle'r un lon bresennol.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i gerbydau trwm a mawr deithio wyth milltir ychwanegol.
Ond pan fydd y bont newydd yn agor, bydd yn darparu cyswllt hwylus ar gyfer trenau, cerbydau o bob maint, beics a cherddwyr.
Cwmni peirianyddol HOCHTIEF (UK) Construction ydi'r prif gontractwyr ac fe fyddan nhw'n gweithio'n agos gyda'r cwmni Mulcair sydd wedi ei leoli yng Ngwynedd.
Fe fyddan nhw'n gwneud y mwyaf o'u perthynas weithio da gyda chyflenwyr lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012