Cefnogwyr Caerdydd yn dathlu dyrchafiad i'r Uwchgynghrair
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Cymru wedi bod yn dathlu ar ôl i'r Adar Gleision ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair y tymor nesa' ar ôl gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Charlton nos Fawrth.
Mae'n golygu y byddan nhw'n herio clybiau fel Manchester United, Lerpwl, Chelsea - ac, wrth gwrs, Abertawe.
Dim ond pwynt yr oedd Caerdydd angen cyn cael dyrchafiad - a phwynt euraidd gafwyd yn y gêm 0-0 o flaen torf o dros 26,000 o ffyddloniaid.
Fe ddigwyddodd union 53 blynedd i'r diwrnod ers i Gaerdydd ennill eu dyrchafiad diwetha' i'r brif adran bêl-droed - a dyma'r tro cynta' iddyn nhw chwarae yn yr Uwchgynghrair ar ei ffurf bresennol.
Fe gawson nhw eu dyrchafu i hen adran gynta'r Gynghrair Bêl-droed ar Ebrill 16, 1960.
'Yn falch iawn'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod y dyrchafiad yn newyddion gwych i Gaerdydd ac i bêl-droed Cymru.
"Mae'r clwb a'r cefnogwyr wedi bod trwy gyfnodau anodd yn y blynyddoedd diweddar ond y tymor hwn mae Malky a'r tîm wedi gwneud gwaith gwych, wedi cadw'u pennau a chael canlyniadau, a dyrchafiad nawr. Maen o'n glwb y gall y ddinas fod yn falch iawn ohono," meddai Mr Jones.
"Bydd y datblygiad yma'n rhoi Caerdydd ar lwyfan rhyngwladol, gyda chefnogwyr oddi cartre' yn dod â nifer fawr o fanteision economaidd i'r ddinas.
"Mae'n rhaid i ni gydweithio nawr i wneud y mwya' o'r cyfleoedd sy'n dod yn sgil dyrchafiad, a hynny i'r clwb, y ddinas a Chymru."
Roedd Charlton yn y nawfed safle cyn nos Fawrth ac wedi trechu Barnsley 6-0 yn eu gêm ddiwethaf, ond roedd yr Adar Gleision - oedd heb y blaenwyr Heidar Helguson a Fraizer Campbell a'r amddiffynwr Matt Connolly - yn edrych yn ddigon cyfforddus yn eu herbyn.
Ergyd gan Craig Bellamy, a sleifiodd heibio'r postyn, oedd yr agosaf y daeth Caerdydd i sgorio, cyn i Kim Bo-Kyung wastraffu cyfle da.
Cafwyd arbediad gwych gan David Marshall i rwystro Ricardo Fuller o Charlton cyn i Craig Noone feddwl ei fod yntau wedi sgorio cyn i'r llumanwr nodi ei fod yn cam-sefyll.
'Aros yn ffyddlon'
Mae'r clwb wedi bod o fewn trwch blewyn i ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn ystod y pedair blynedd diwethaf, gan golli tair gwaith mewn gemau ail gyfle.
Ond y tro hwn, dan arweiniad Malky Mackay, maen nhw wedi bod ar frig yr adran ers Tachwedd 24 ac wedi cael eu dyrchafu gyda thair gêm i'w chwarae eto.
Mae Malky Mackay wedi diolch i'r cefnogwyr am "aros yn ffyddlon yn ystod y flwyddyn" wedi newidiadau dadleuol, gan gynnwys newid lliw crysau'r clwb.
"Nid yn unig maen nhw wedi teithio yn eu niferoedd i gemau oddi cartre' ond maen nhw wedi creu awyrgylch drydanol yn y gemau cartre'."
Mae disgwyl i'r dyrchafiad ddod â nifer o fanteision i'r clwb a dinas Caerdydd.
Manteision economaidd
Roedd astudiaeth ddiweddar yn amcangyfrif fod tymor cynta' Abertawe yn yr Uwchgynghrair wedi dod â £58 miliwn i'r ddinas, gan greu neu sicrhau tua 340 o swyddi.
Mae 'na ddyfalu nawr y gallai dyrchafiad Caerdydd greu cynifer â 5,000 o swyddi.
Mae cyngor Caerdydd wedi llongyfarch y clwb ar sicrhau dyrchafiad, gan ddweud fod denu rhai o'r enwau mwya' mewn pêl-droed i'r brifddinas yn "hollbwysig".
Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, ac arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies: "Mae Caerdydd wedi cael tymor anhygoel ac rwyf wrth fy modd eu bod nawr wedi sicrhau dyrchafiad."
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon, Lindsay Whittle AC: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru gan y bydd gennym ddau dîm yn yr Uwchgynghrair am y tro cynta' mewn hanes. Rwy'n siŵr y bydd cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe'n edrych 'mlaen at adfywio'r gystadleuaeth angerddol rhyngddynt."
Mae disgwyl i'r cytundeb teledu newydd fod werth £30 miliwn i bob un o'r 20 clwb yn yr Uwchgynghrair yn ystod tymor 2013/14.
Mae perchennog Caerdydd, y dyn busnes o Falaysia, Vincent Tan, eisoes wedi dweud fod ganddo "gynlluniau mawr" ar gyfer y clwb ac y byddai'n gwario hyd at £25 miliwn ar chwaraewyr newydd petai nhw'n sicrhau dyrchafiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013