Coeden 1,200 oed wedi dymchwel

  • Cyhoeddwyd
Coeden dderwen Pontfadog
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddymchwelodd y goeden dderwen oherwydd y gwyntoedd cryfion

Mae coeden 1,200 mlwydd oed wedi ei chwythu drosodd gan y gwynt cryf yn y gogledd ddwyrain.

Credir bod coeden dderwen Pontfadog yn un o'r rhai hynaf a'r mwyaf ym Mhrydain, a'i bod wedi disgyn nos Fercher.

Roedd hi wedi bod yn tyfu yn agos i'r Waun yn Wrecsam ers y flwyddyn 802 ac yn 42 troedfedd a phum modfedd o drwch.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad De Clwyd Ken Skates, nid dyma'r unig goeden sydd wedi cael ei dinistrio gan yr eira a'r gwyntoedd yn ddiweddar.

Mae coed eraill yn ardal Wrecsam wedi eu heffeithio hefyd a rhai wedi eu difetha yn llwyr.

Dywedodd y gwleidydd Llafur: "Dw i'n drist iawn i glywed y newyddion bod coeden dderwen Pontfadog wedi cwympo.

"Rydyn ni wedi colli darn pwysig ac eiconaidd o etifeddiaeth leol yma yn Wrecsam."

Deiseb

Y llynedd cyflwynodd Coed Cadw ddeiseb i'r Cynulliad yn gofyn iddyn nhw wneud mwy i achub coed hynafol.

Mae Rory Francis o'r gymdeithas yn dweud bod angen system i'w hamddiffyn yn debyg i'r hyn sydd gan Cadw ar gyfer hen adeiladau rhestredig.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod nhw'n ystyried ar hyn o bryd y ffordd gorau i warchod hen goed ac y byddan nhw yn darparu mwy o wybodaeth ar y mater yn fuan.

Dywedodd Ken Skates: "Fel rydyn ni wedi gweld, gall coeden hynafol fel hon gymryd cannoedd o flynyddoedd i aeddfedu ond fe all y cyfan gael ei golli o fewn awr."

Mae'r AC yn gobeithio y bydd modd arbed rhai o'r darnau a'i harddangos fel y gall y genhedlaeth nesaf wybod am hanes y goeden.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol