Teulu merch gafodd ei hanafu yn diolch am gefnogaeth
- Cyhoeddwyd

Roedd Catrin Pugh wedi bod yn gweithio yn yr Alpau dros y tymor sgïo
Mae teulu merch 19 oed o ardal Wrecsam gafodd ei hanafu yn ddifrifol mewn damwain bws yn yr Alpau yn Ffrainc wedi diolch am y gefnogaeth a gawson nhw.
Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor bod Catrin Pugh o bentre'r Orsedd yn yr ysbyty yn Ffrainc, a bod ei theulu wedi cael cynnig cymorth llysgenhadol.
Mae'n debyg ei bod hi yn teithio adref ar ôl gweithio yn Ffrainc dros y tymor sgïo.
Roedd dros 50 o bobl ar y bws pan lithrodd y bws oddiar y ffordd a mynd ar dân ger Alpe d-Huez ddydd Mawrth.
Cafodd y gyrrwr, Maurice Wrightson, 63 oed o Northumberland ei ladd ac roedd Catrin Pugh ymhlith tri o Brydain gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.

Roedd y bws wedi bod yn cludo staff adref i'r DU ar ddiwedd y tymor gwyliau
'Diolch'
Mae teulu Catrin Pugh wedi cyhoeddi datganiad sy'n dweud:
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu dymuniadau da a'u cefnogaeth, yn enwedig swyddogion y Swyddfa Dramor a chynrychiolwyr SkiBound sydd wedi bod yn wych.
"Mae'r ysbyty yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ac maen nhw wedi bod yn garedig dros ben.
"Mae'r negeseuon caredig a'r gefnogaeth wedi bod yn drech na ni. Fe fyddwn yn ddiolchgar nawr pe bai pawb yn parchu ein preifatrwydd yn y cyfnod anodd yma."
Dewrder
Roedd y bws wedi bod yn cludo staff cyrchfan sgïo adre i'r DU ar ddiwedd y tymor gwyliau.
Digwyddodd y ddamwain wrth i'r bws ddod i lawr allt serth sy'n cael ei defnyddio'n aml yn ras feicio flynyddol y Tour de France.
Mae'r heddlu amau bod nam am frêcs y cerbyd.
Dywedodd swyddogion yn Ffrainc bod Mr Wrightson wedi dangos "dewrder rhyfeddol" drwy adael i'r bws daro yn erbyn creigiau yn hytrach na chymryd risg y byddai'n mynd dros ddibyn.