Rali yn erbyn codi cannoedd o dai
- Cyhoeddwyd
Roedd 60 mewn protest yn erbyn bwriad i godi cannoedd o dai ym mhentref Pen-y-banc ger Rhydaman.
Am 11:30am roedd rali Cymdeithas yr Iaith a Grŵp Gweithredu Pen-y-banc yn Neuadd Les y pentref lle oedd trafodaethau am gamau nesaf eu hymgyrch.
Mae'r asesiad gafodd ei gomisiynu gan y datblygwr Swallow Properties yn awgrymu y byddai'r effaith ar y Gymraeg yn yr ardal yn "fuddiol".
Ond mae asesiad gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Cymuned Llandybie wedi awgrymu y byddai'r effaith yn "andwyol".
'Naturiol Gymraeg'
Yn y rali dywedodd Joy Davies o Grŵp Gweithredu Pen-y-banc: "Mae pentrefi fel Pen-y-banc, Saron a Thŷ Croes yn ardaloedd yn parhau i fod yn 'naturiol' Gymraeg.
"Ac mae'r pentrefi hyn wedi cadw ymdeimlad cryf o'u hunaniaeth er eu bod nhw yng nghyffiniau Rhydaman.
"Ein cred ni yw y bydd codi 289 o dai ar un safle ym Mhen-y-banc yn cael effaith niweidiol ar Gymreictod yr ardal ac ar gymeriad y pentref."
Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn dangos bod llai'n siarad Cymraeg yn y sir.
Yn ardal Rhydaman mae 49.9% yn siarad Cymraeg tra oedd 61.46% yn 2001.
Corff annibynnol
Eisoes mae Pennaeth Adran Gynllunio Cyngor Sir Gâr, Eifion Bowen, wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu corff annibynnol fyddai'n cynghori awdurdodau lleol sut i ddelio â cheisiadau dadleuol allai effeithio ar y Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Mae 'na ddisgwyl i awdurdodau lleol ddarparu cynllun datblygu lleol sy'n datgan eu polisïau o ran defnydd a datblygu tir dros 15 mlynedd.
"Mae gennym gorff annibynnol, Yr Arolygiaeth Gynllunio, fydd yn arolygu cynllun datblygu Sir Gâr maes o law, gan gynnwys yr effaith ar yr iaith Gymraeg".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013