Ambiwlans: Amseroedd ymateb yn waeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos dirywiad difrifol yn amseroedd ymateb ambiwlansys Cymru i alwadau brys.
Targed Llywodraeth Cymru yw y dylai 65% o ambiwlansys ymateb i alwad frys o fewn 8 munud. Ni wnaeth yr un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gyrraedd y nod hwnnw fis diwethaf.
Ar gyfartaledd, 53.3% o ymatebion i alwadau brys oedd o fewn y targed. Yr awdurdod gorau oedd Sir Ddinbych gyda 64.9% - y gwaethaf oedd Rhondda Cynon Taf gyda 42.1%.
Dyma'r degfed mis yn olynol i'r targedau gael eu methu.
'Angen eglurhad'
Wrth ymateb i'r ffigurau, mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw am weithredu gan weinidogion, a hynny ar frys.
Dywedodd eu llefarydd ar iechyd, Darren Millar AC: "Mae amseroedd ymateb wedi disgyn i lefel sy'n frawychus o isel, ac mae angen eglurhad ar frys.
"Dim ond hanner y galwadau ble roedd bygythiad i fywyd rhywun a gafodd ymateb amserol ym mis Mawrth, ac mae hynny'n golygu pryder anochel i filoedd o gleifion.
"Gall pob munud sy'n cael ei golli effeithio ar obeithion claf o wella, ac fe all oedi arwain at farwolaeth.
"Mae toriadau cyllideb Llafur wedi arwain at ad-drefnu amhriodol, oedi mewn adrannau damweiniau ac mae potensial am oedi hirach yn y dyfodol.
"Rhaid i staff yn y rheng flaen gael y flaenoriaeth, ac mae'n rhaid i'n gwasanaeth iechyd gael y buddsoddiad sydd ei angen."
'Cywilydd'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams AC:
"Mae methiant Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd ymateb gwael yn gywilydd, ac mae'r peth yn gwaethygu.
"Rwy'n cydnabod bod nifer uchel o alwadau ym mis Mawrth oherwydd y tywydd drwg, ond does dim esgus am y ffigurau gwarthus yma. Rhag cywilydd i weinidogion Llafur Cymru.
"Mae targedau ymateb yma yng Nghymru eisoes 10% y tu ôl i'r rhai yn Lloegr a'r Alban, ac eto dyw Cymru ddim yn agos at gyrraedd y targedau isel yma.
"Mae staff Ambiwlans Cymru yn gweithio'n rhyfeddol o galed i gael yr amseroedd ymateb gorau y gallan nhw, ond yn amlwg maen nhw'n gweithio o fewn system sy'n methu ac sy'n eu rhwystro rhag gwneud eu gwaith.
"Cyhoeddodd y gweinidog iechyd ddoe bod disgwyl cyhoeddi'r Adolygiad Ambiwlans fis nesa' - y nawfed adolygiad mewn chwe blynedd.
"Rhaid i hwn fod yr adolygiad olaf - mae bywydau yn y fantol ac mae angen canlyniadau."
'Mwy o bwysau'
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones: "Dyma set arall eto o ffigyrau sy'n dangos fod y GIG mewn argyfwng.
"Dyma'r degfed mis yn olynol i'r gwasanaeth ambiwlans fethu cyrraedd eu targedau, ac y mae'n gwneud i rywun ofyn faint pellach yr aiff y sefyllfa cyn i bethau chwalu.
"Mae'n amlwg fod y GIG yn ymdrechu i ymdopi a'r pwysau enfawr sydd arnynt. Mae angen i ni roi terfyn ar y duedd hon, ond gwaetha'r modd, bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru i ganoli gwasanaethau ysbyty yn rhoi mwy fyth o bwysau ar lai o adrannau brys.
"Dyna pam fod Plaid Cymru yn wastad wedi ymgyrchu i gadw gwasanaethau brys yn ein hysbytai dosbarth cyffredinol. Byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn ymestyn gwasanaethau tu allan i oriau fel bod gan bobl ddewis arall yn lle adrannau brys, a buasem yn gwneud yn siŵr fod gan y gwasanaeth ambiwlans y cyfarpar iawn i ateb yr her mae'n wynebu."
'Pwysau sylweddol'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Rydym yn parhau i wynebu pwysau sylweddol ar draws y sustem gofal iechyd ac yn croesawu'r mesurau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru i ateb hyn.
"Roedd Mawrth yn fis prysur iawn i ni gan dderbyn 2,500 yn fwy o alwadau na'r llynedd, a gyda mwy o'r galwadau hynny o natur fwy difrifol.
"Roedd hyn ynghyd ag oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai a'r eira a thywydd drwg wedi effeithio ar ein gallu i ymateb i alwadau brys, ac rydym yn canmol gwaith caled ac ymroddiad ein staff yn yr amgylchiadau heriol yma.
"Unwaith eto rydym yn gofyn i'r cyhoedd i'n cefnogi drwy ond deialu 999 a mynd i adrannau damweiniau pan fo bywyd mewn perygl neu fod salwch neu anafiadau difrifol wedi digwydd."
Fe fydd adolygiad yr Athro McClelland i Wasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael ei drafod yn y Cynulliad ar ddydd Mawrth, Mai 7.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2013