Merlod y Carneddau yn frîd unigryw

  • Cyhoeddwyd
Ceffylau
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwilwyr IBERS yn dweud bod hi yn bwysig i warchod y merlod.

Mae ceffylau gwyllt sydd yn pori ar fynyddoedd y Carneddau yn anifeiliaid genetic unigryw.

Dyna mae gwaith ymchwil prifysgol Aberystwyth wedi darganfod.

Mae'r gwyddonwyr hefyd yn pwysleisio'r angen i'w gwarchod a hynny yn enwedig ar ôl i nifer ohonynt farw yn ystod eira mawr ym mis Mawrth.

Yr ymchwil

Fe aeth Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ati i gasglu samplau DNA er mwyn profi os oedd merlod Carneddau yn perthyn i unrhyw frîd arall ym Mhrydain.

Roedd y gwyddonwyr hefyd eisiau gweld os oedd y merlod sydd yn byw yn ucheldiroedd gogledd Eryri wedi eu gwahanu oddi wrth frîd arall Cymreig- brîd sydd yn cael ei galw yn geffylau Cymreig adran A.

Rhain yw'r anifeiliaid sydd fwyaf tebyg o ran pryd a gwedd ac yr agosaf o ran lleoliad i ferlod y Carneddau.

Ar ôl cynnal profion manwl daeth y gwyddonwyr i'r casgliad bod ganddyn nhw rinweddau genetic unigryw.

Dywedodd Clare Winton, oedd yn rhan o'r ymchwil: "Er bod merlod Carneddau wedi rhannu llinach gyda cheffylau Cymreig adran A, mae ganddyn nhw rinweddau genetic unigryw sydd yn dangos bod y boblogaeth wedi ei chadw arwahan am o leiaf cannoedd o flynyddoedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol