Adeiladu: Cynllun gwastraff 'niweidiol'
- Cyhoeddwyd
Mae adeiladwyr yn rhybuddio y gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff ar safleoedd adeiladu niweidio'r diwydiant.
Yn ôl rhai yn y sector mae'r rheoliadau newydd yn debyg o arwain at wastraff adeiladu yn cael ei dipio yn anghyfreithlon.
Mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wedi beirniadu'r cynlluniau a fydd, yn eu barn hwy, yn effeithio canran uwch o safleoedd adeiladu yng Nghymru nac yn Lloegr.
Ac mae gweinidogion o Lywodraeth Prydain wedi cyhuddo'r llywodraeth Lafur yng Nghymru o "ddinistrio'r farchnad dai".
'Baich'
Daw'r cyhuddiad yn sgil cwyno gan rai o fewn y diwydiant adeiladu ynglŷn â'r baich o gydymffurfio â rheoliadau yng Nghymru - gan gynnwys cynlluniau a fydd yn gorfodi adeiladwyr i osod taenellwyr dŵr ymhob tŷ newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi cydweithio gyda Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr i leihau effaith y rheoliadau ar y diwydiant.
Fe ddaeth ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar y cynlluniau rheoli gwastraff safle i ben ddydd Iau.
Byddai'n rhaid i gleientiaid a chontractwyr cyflwyno cynlluniau adeiladu i gynghorau lleol gydag esboniad o sut y maen nhw'n bwriadu cael gwared â gwastraff o'r safle.
£300,000
Mae cynllun tebyg wedi gweithredu yn Lloegr ers Ebrill 2008 ble mae angen i bob prosiect adeiladu gwerth mwy na £300,000 esbonio sut bydd y gwastraff yn cael ei gludo o'r safle.
Yng Nghymru mae'r llywodraeth yn awyddus i weld cynlluniau rheoli gwastraff ar gyfer unrhyw waith adeiladu sydd angen caniatâd cynllunio neu sy'n gorfod cydymffurfio â rheoliadau adeiladu.
Gall y gwaith hynny gynnwys prosiectau adeiladau mawr fel stadau tai, ond hefyd newid ffenestri neu adeiladu estyniad ar gartre unigolyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod polisi Llywodraeth Prydain o ofyn am gynlluniau rheoli gwastraff ar gyfer prosiectau gwerth £300,000 yn un sydd "â nifer o wendidau"
Yng Nghymru y cynghorau fydd yn gyfrifol am gymeradwyo'r cynlluniau rheoli gwastraff, a'r cyfrifoldeb yn cael ei rhannu rhwng y cleient a'r contractwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod cynghorau yn codi rhwng £50 a £100 ar gyfer cyflwyno cynllun.
Dirwy sylweddol
Mi fydd yna ddirwy o hyd at £50,000 i'r rhai sy'n euog o dorri'r cynllun rheoli gwastraff.
Dywedodd cyfarwyddwr Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yng Nghymru, Richard Jenkins: "Bydd hyn yn wrthgynhyrchiol.
"Mae'n sicr yn newyddion drwg i'r diwydiant".
Mae cadeirydd cwmni adeiladu Redrow, Steve Morgan, wedi honni y byddai rheoliadau newydd sydd a'r bwriad o greu cartrefi cyfeillgar i'r amgylchedd yn ychwanegu £11,000 i gost tŷ tair ystafell wely erbyn 2015.
Dywedodd Eric Pickles, Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth y DU, fod Cymru yn wynebu "biwrocratiaeth ychwanegol, sy'n golygu llai o dai newydd a phrynwyr tro cyntaf".
"Mae'r Blaid Lafur yn dinistrio'r farchnad dai yng Nghymru gyda'i rheoleiddio ychwanegol a thâp coch," meddai.
'Mwy cynaliadwy'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gweithio gyda chynrychiolwyr y diwydiant, gan gynnwys Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, er mwyn lleihau baich y rheoliadau arfaethedig ar y diwydiant adeiladu ac wedi nodi sut y gall unrhyw gynllunio ychwanegol gael ei wrthbwyso gan arbedion cost sylweddol yn deillio o fabwysiadu arferion gwastraff mwy cynaliadwy.
"Rydym wedi ymgynghori ar gwmpas, cynnwys a gorfodi'r rheoliadau arfaethedig a byddwn yn ystyried yn llawn yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y 12 wythnos diwethaf cyn datblygu'r rheoliadau ymhellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012