Eos a'r BBC yn trafod telerau

  • Cyhoeddwyd
Logo EosFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tribiwnlys hawlfraint yn ystyried y cytundeb dros dro rhwng y BBC ac Eos

Mewn tribiwnlys hawlfraint mae'r BBC ac Eos wedi bod yn trafod telerau ar gyfer trwydded dros dro i ddarlledu caneuon aelodau'r asiantaeth.

Dywedodd y BBC eu bod yn talu £120,000 y flwyddyn i Eos ar gyfer trwydded dros dro i ddarlledu caneuon aelodau'r asiantaeth - neu £10,000 y mis.

Eos sy'n berchen ar yr hawliau i ddarlledu degau o filoedd o ganeuon Cymraeg poblogaidd ac mae'r asiantaeth yn dadlau y dylai gael £325,000 y flwyddyn ar gyfer trwydded dros dro.

Ddechrau'r flwyddyn, o ganlyniad i anghydfod am werth masnachol yr hawliau darlledu, wnaeth y BBC ddim darlledu cerddoriaeth aelodau Eos am wythnosau.

Ystyried

Yn Chwefror cafwyd cytundeb dros dro ac mae'r tribiwnlys wedi ystyried y cytundeb cyn i wrandawiad llawn gael ei gynnal tua diwedd yr haf neu ddechrau'r hydref.

Dywedodd y bargyfreithiwr sy'n cynrychioli'r BBC, Lindsay Lane: "Mae'r swm rydyn ni'n ei dalu nawr yn glir iawn yn swm hael."

Dywedodd ei fod yn fwy nag yr oedd aelodau yn ei dderbyn o dan y cytundeb gyda'r PRS.

Ychwanegodd fod y BBC yn credu y dylai cytundeb parhaol ar gyfer cerddoriaeth Eos fod "yn ddim mwy na £100,000".

Mae'r BBC yn credu y dylai'r swm a gytunwyd gydag Eos ym mis Chwefror, £120,000, barhau tan y gwrandawiad llawn.

Dywedodd Ms Lane ar ran y BBC fod Eos am weld y taliad dros dro yn cael ei gynyddu i £325,000 ac yn credu y dylai cost flynyddol trwydded lawn fod yn £1.5 miliwn.

Dywedodd bargyfreithiwr Eos, Tom Weisselberg, yn y tribiwnlys "nad yw'n gorliwio i ddweud bod y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg mewn argyfwng".

£325,000

Yn ôl Mr Weisselberg, mae aelodau Eos yn creu cynnyrch niche ac yn haeddu premiwm gan y BBC am ddefnyddio'r cynnyrch hwnnw, hynny yw'r gerddoriaeth.

Cadarnhaodd yr hoffai Eos gael £325,000 ar gyfer trwydded dros dro ac ychwanegodd y byddai 20% o'r swm gael ei ddefnyddio ar gyfer costau mynychu'r tribiwnlys a gweinyddu'r asiantaeth.

Byddai'r gweddill yn cael ei ddosbarthu i'r aelodau.

Wedi'r gwrandawiad dywedodd Dafydd Roberts o EOS ei bod am ddal ati i ymladd dros hawliau'r cerddorion:

"Mae gennon ni ddadleuon cryf iawn am beth ddylen ni gael yn y pendraw.

"Y broblem ydy wrth gwrs mae'r BBC yn naturiol yn selio ei dadleuon nhw ar beth mae'r PRS yn ei wneud.

"Wel tasen ni yn derbyn hynny fysen ni ddim yn y sefyllfa yma beth bynnag.

"Mae'n rhaid i ni frwydro am rywbeth llawer uwch er mwyn diogelu'r diwydiant."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru Wales:

"Fel yr ydym wedi datgan o'r cychwyn cyntaf ein ffocws yw i ddod i gytundeb sy'n deg i gerddorion Cymraeg a thalwyr ffi'r drwydded.

Gwrandawiad dros dro heddiw yw'r cam cyntaf mewn proses gyfreithiol annibynnol sy'n parhau ac a fydd yn dod i ben gyda gwrandawiad Tribiwnlys llawn yn ddiweddarach eleni."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol