Eos: Tribiwnlys i ystyried y gost
- Cyhoeddwyd
Fe fydd tribiwnlys hawlfraint yn cyfarfod heddiw - i ddechrau ar y broses o geisio dod ag anghydfod rhwng y BBC ac asiantaeth hawliau darlledu Eos i ben.
Nod y tribiwnlys yw pennu pa bris y dylai'r BBC ei dalu am yr hawl i ddarlledu caneuon aelodau Eos - ar ôl i'r ddwy ochr fethu â chytuno ar hynny.
Eos sy'n berchen yr hawliau i ddarlledu degau o filoedd o ganeuon Cymraeg poblogaidd.
Ddechrau'r flwyddyn, o ganlyniad i'r anghydfod am werth masnachol yr hawliau darlledu, wnaeth y BBC ddim darlledu cerddoriaeth aelodau Eos am sawl wythnos.
Ym mis Chwefror, cafwyd cytundeb dros dro, ac mae disgwyl y bydd y cytundeb hwnnw yn cael ei ystyried yn ystod y gwrandawiad y bore 'ma.
Bydd y tribiwnlys yn ail-ymgynnull yn ystod y misoedd nesaf i glywed tystiolaeth gan y ddwy ochr, cyn dod i benderfyniad terfynol am yr hyn fydd rhaid i'r BBC ei dalu i chwarae cerddoriaeth aelodau Eos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013