Iechyd a'r Gymraeg: Profiadau pobl
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn awyddus i glywed gan y cyhoedd am eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg yn y maes iechyd.
Bydd straeon pobl wedyn yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad cyntaf statudol y Comisiynydd, Meri Huws.
Canolbwyntio ar y gwasanaethau gofal sylfaenol fyddan nhw yn ystod yr ymchwiliad.
Mae hynny yn golygu'r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig gan bobl fel meddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr, timau yn y gymuned a'r llinell gymorth Galw Iechyd Cymru.
Nid dim ond lleisiau'r cyhoedd fydd yn cael eu clywed ond lleisiau'r rhai sydd yn gweithio yn y maes iechyd hefyd.
Bydd adroddiad yn cael ei wneud gyda'r argymhellion yn cael eu cyflwyno i bobl sydd yn llunio polisi.
Y nod meddai'r Comisiynydd yw newid arferion a ffordd pobl o feddwl a bod y claf yn cael profiad da trwy ddefnyddio'r Gymraeg yn y sector iechyd.
Panel
Mae panel o arbenigwyr wedi eu penodi i graffu ar yr ymatebion ac i roi cyngor i Meri Huws pan fydd hi'n penderfynu ar yr argymhellion.
Mae'r panel yn cynnwys yr Athro Ceri Phillips, Dr Gareth John Llewelyn, Dr Elin Royles a'r Cadeirydd yw Dr Peter Higson sef cyn prif weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru tan iddo ymddeol y llynedd.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:
"Gwasanaethau gofal sylfaenol yw man cychwyn perthynas y mwyafrif helaeth ohonom â'r gwasanaeth iechyd, ac mae angen sefydlu dilyniant cadarn o ran y Gymraeg trwy gydol taith y claf o fewn y system iechyd o'r pwynt cyntaf un.
"Ers i mi ddechrau yn fy swydd fel Comisiynydd ychydig dros flwyddyn yn ôl, mae nifer sylweddol o'r cwynion yr wyf wedi eu derbyn am y maes iechyd yn ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol.
"Rwy'n galw ar unrhyw un sydd â phrofiadau - da neu wael - o ddefnyddio'r Gymraeg yn y meysydd hyn i rannu'r profiadau hynny â ni."
Mae'n bosib i bobl gysylltu gyda'u sylwadau tan fis Medi 2013 trwy ffonio neu e-bostio a bydd stondin gan swyddfa'r Comisiynydd yn Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Fawr.
Bydd nifer o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal gyda'r cyhoedd ar draws Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013