'Economi Cymru'n tyfu' medd cyflogwyr
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliad y cyflogwyr y CBI yn rhagweld y bydd economi Cymru'n tyfu tuag at ddiwedd y flwyddyn ac y bydd hynny'n parhau yn 2014.
Dywed CBI Cymru bod economi Cymru'n tyfu yn ara' deg, gyda manwerthwyr yn dweud eu bod yn derbyn mwy o archebion.
Ond mae'n ychwanegu y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu'r diwydiant adeiladu drwy ddiddymu biwrocratiaeth a "gwario'n gall" yr arian sydd ar gael o'r Trysorlys.
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.
'Optimistaidd'
Prif neges y CBI oedd bod yr economi yn tyfu'n raddol iawn, ond mae'n rhybuddio hefyd y gallai diweithdra gynyddu, ac y bydd pobl yn teimlo'r pwysau wrth i gyflogau lusgo'u traed y tu ôl i brisiau.
Galwodd y sefydliad ar lywodraeth y DU i wireddu addewidion drwy orfodi banciau i fenthyca mwy, ac i leihau biwrocratiaeth er mwyn cynyddu allforion.
Dywedodd cyfarwyddwr y CBI yng Nghymru, Emma Watkins:
"Mae'r dirwasgiad wedi para ers tro. Mae llawer yn credu nad ydym wedi cyrraedd ei ddiwedd, ac yn wir dydyn ni ddim.
"Ond mae llawer yn credu bod pethau'n gwella - ddim yn dda eto, ond yn iawn ac maen nhw'n gobeithio y bydd pethau'n newid.
"Llawer o'r cwmnïau yng Nghymru sy'n gwneud yn dda yw'r rhai sy'n allforio y tu hwnt i Ewrop, a dyna'r rhai sy'n fwyaf optimistaidd.
"Mae yna gwmnïau sydd ag arian i fuddsoddi, ond ddim yn ddigon hyderus i wneud hynny, a dyna pam yr ydym yn bositif gyda'n rhagolygon am ddiwedd y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf."
'Gwaeth yng Nghymru'
Ond roedd Ms Watkins hefyd yn feirniadol o weinidogion Cymru oherwydd y trafferthion sy'n wynebu'r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn dilyn diddymu'r cynllun NewBuy ym mis Ebrill.
Bwriad y cynllun oedd rhoi hwb i bobl fynd i mewn i'r farchnad dai, a chefnogi codi 3,000 o dai.
Dywedodd gweinidogion bod y diwydiant tai wedi tynnu eu cefnogaeth i'r cynllun yn ôl wedi i gynlluniau tebyg, ond gwahanol, gael eu cyhoeddi gan lywodraeth y DU.
Ychwanegodd Ms Watkins: "Mae'r diwydiant adeiladu drwy'r DU yn ei chael yn anodd, ond does dim amheuaeth bod pethau'n waeth yng Nghymru am sawl rheswm.
"Un o'r prif resymau yw nad ydym wedi gweld yr un anogaeth i brynwyr tro-cyntaf i brynu tai er enghraifft.
Dyw'r ansicrwydd am y cynllun NewBuy ddim yn help chwaith - mae adeiladwyr yma o dan anfantais o gymharu â Lloegr.
"Dyna ddau faes lle gallai Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth go iawn pe bai nhw'n diwygio ac yn gwario'n gall yr arian y maen nhw'n ei gael gan y Trysorlys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013