MMR: 60,000 wedi eu brechu
- Cyhoeddwyd
Mae dros 60,000 wedi derbyn brechiad MMR yng Nghymru ers dechrau mis Mawrth.
Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod yna 33,000 o blant a phobl ifanc rhwng 10 a 18 oed yng Nghymru sydd dal heb ei dderbyn.
Mae nifer yr achosion o'r frech goch mewn ardaloedd lle mae byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Powys yn weithredol bellach wedi cyrraedd 1,136.
Dim ond 19 achos fu yng Nghymru drwy gydol 2011.
'Pryderus'
Dywedodd cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Marian Lyons: "Ry'n ni'n falch iawn o weld, o ganlyniad i ymdrechion y byrddau iechyd, fod y nifer sydd wedi derbyn y brechiad MMR wedi mynd heibio 60,000.
"Heb os, bydd hyn o gymorth i leihau hyd a difrifoldeb yr haint presennol - ond ry'n ni'n dal i fod yn bryderus am y 33,000 o blant rhwng 10 a 18 sydd heb gael eu brechu."
"Bydd wastad y posibilrwydd o achosion o'r frech goch mewn ardaloedd eraill nes i ni leihau nifer y bobl sydd heb eu brechu. Os yw eich plentyn wedi colli un neu ddau o'r brechiadau MMR, peidiwch â sefyll yn yr unfan - cymrwch gamau nawr."
Yr wythnos hon fydd y tro olaf i bobl dderbyn brechiad mewn sesiynau arbennig mewn clinigau ac ysgolion, er gall pobl drefnu i'w gael drwy eu meddyg teulu.
Bydd y sesiwn frechu olaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael ei chynnal yn Ysbyty Tywysoges Cymru nos Iau Mai 23 rhwng 6pm a 9pm.
Ym Mhowys bydd cyfle i bobl fynd i un o ddwy sesiwn sy'n cael eu cynnal ddydd Sadwrn Mai 25 rhwng 10.30am a 2.30pm - un yn Ysbyty Aberhonddu a'r llall yn Ysbyty'r Drenewydd.
'95%'
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ei fod yn ceisio sicrhau bod o leiaf 95% o blant yng Nghymru yn derbyn y brechiad MMR yn y dyfodol
"Mae'r achos presennol yn atgyfnerthu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynyddu brechiadau MMR," meddai Mr Drakeford.
"Gobeithio y bydd hyn yn gwneud llawer i ddiogelu iechyd y boblogaeth yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2013