Y frech goch ar gynnydd eto
- Cyhoeddwyd
Mae nifer achosion y frech goch wedi cynyddu eto.
Erbyn hyn mae 1,325 o achosion wedi eu cofnodi ar draws Cymru ers dechrau Tachwedd 2012.
Dim ond 19 achos gafwyd yn ystod 2011.
Dyma'r wythnos olaf y bydd sesiynau brechu yn cael eu cynnal mewn ysgolion ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i achub y cyfle i drefnu rhoi'r pigiad yw plant.
Yn benodol, maen nhw am i unigolion rhwng 10 a 18 oed dderbyn y brechiad MMR gan mae dyma'r grŵp sydd wedi ei effeithio fwyaf gan ledaeniad y clefyd.
'Llenwi'r ffurflen'
Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Gwarchod Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Dyma'r wythnos olaf y bydd plant mewn ysgolion ar draws Cymru yn cael cynnig y brechiad MMR.
"Felly rydym yn atgoffa'r rheini gyda phlant sydd ddim wedi derbyn y ddau ddos o'r MMR i lenwi'r ffurflen ganiatâd i sicrhau eu bod yn cael y brechiad.
"Mae plant dros 16 oed yn medru cael y brechiad heb y ffurflen caniatâd."
Llai na thraean
Mae modd i bobl gael y brechiad drwy fynd at eu meddyg teulu ac yn ystod y ddau fis diwethaf mae mwy na 50,000 wedi derbyn y brechiad.
Er hynny, roedd llai na thraean o'r rhain yn bobl rhwng 10-18 oed sydd yn achos o bryder i'r corff iechyd.
Mae sesiynau galw heibio wedi bod yn cael eu cynnig a ddydd Sadwrn bydd modd gwneud hyn yn Ysbyty Aberhonddu ac Ysbyty Y Drenewydd rhwng 10.30am a 2.30pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd14 Mai 2013
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2013