Y frech goch: Mwy o glinigau yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd bron 2,000 eu brechu rhag y frech goch yng nghlinigau galw heibio pedwar ysbyty ddydd Sadwrn.
Hon yw'r nifer fwya' yn ystod y gyfres o achosion.
Am y trydydd Sadwrn yn olynol roedd clinigau arbennig yn cynnig brechiad MMR.
Roedd clinigau arbennig rhwng 10am a 4pm yn Ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Cafwyd cadarnhad fod dyn 25 oed y daethpwyd o hyd i'w gorff yn Abertawe ddydd Iau yn dioddef o'r frech goch.
Ond mae profion yn dal i gael eu cynnal cyn penderfynu ai hwn oedd achos ei farwolaeth.
Ei enw yw Gareth Williams a chafodd ei gorff ei ddarganfod mewn fflat yn Heol Port Tennant am 8:15am fore Iau.
Mae dros 800 o achosion o'r salwch wedi eu cadarnhau yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.
Y prif reswm am y nifer o achosion, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yw nad oes digon o blant rhwng 10 a 17 oed wedi cael eu brechu.
'Cymhlethdodau'
Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd y corff: "Ni allwch fod yn ddi-hid o'r frech goch oherwydd nid oes modd dweud pwy fydd yn datblygu cymhlethdodau mwy difrifol fel niwmonia ac enseffalitis (yr ymennydd yn chwyddo).
"Y brechiad MMR yw'r unig amddiffyniad yn erbyn y cymhlethdodau hyn.
"Rydym yn atgoffa rhieni nad dim ond sôn am blant bach fyddai'n cael eu brechiadau MMR yn y dyfodol agos yr ydym - mae angen i ni weld mwy o blant hŷn sydd ddim wedi cael eu brechu yn y gorffennol yn cael eu brechu nawr a hynny ar fyrder.
"Rydym yn bryderus iawn am blant heb eu brechu yn y grŵp oedran 10 i 14 oed.
"Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y dosau MMR na chafwyd yn y gorffennol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013