MMR a gofal brys yn flaenoriaethau i'r gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Rhoi brechiad MMR i blant o dan bump a lleihau amser aros i gleifion mewn unedau brys yw rhai o brif flaenoriaethau'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dyma mae cynllun sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ei ddweud.
Dywedodd y rhai sydd wedi cynllunio'r fframwaith fod y pwyslais wedi ei rhoi y tro yma fwy ar brofiad y claf, ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael a pha mor ddiogel yw'r gwasanaethau hynny.
Y fframwaith
Maent yn cynnwys brechu 95% o blant o dan bump oed gyda brechiad yr MMR.
Hefyd mae'r fframwaith yn nodi'r angen i wella amseroedd ambiwlans a lleihau yr amser y mae'n rhaid i unigolyn aros nes cael ei drin mewn uned brys.
Maent hefyd yn cynnwys lleihau nifer y bobl sydd yn mynd i'r ysbyty trwy gydweithio agosach rhwng asiantaethau iechyd a'r gwasanaeth iechyd.
Bydd gwella urddas i gleifion yn flaenoriaeth arall gyda holiaduron yn cael eu rhoi yn gofyn i bobl sut brofiadau y maen nhw wedi derbyn gan y gwasanaeth iechyd a gwirio ar hap i asesu os oes yna welliannau wedi bod.
Dywedodd David Sissling, Prif Weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, fod y fframwaith yn cyd-fynd gyda'r hyn y mae'r gweinidog iechyd wedi dweud ei fod eisiau canolbwyntio arno sef profiad y claf a chanlyniadau:
"Yn ystod y misoedd nesaf fe fyddwn i yn canolbwyntio ar wella eto ar ein targedau. Fe fyddwn i yn gweithio gyda'n staff, pobl yn y maes a'r rhai sydd yn defnyddio'r gwasanaethau i wneud yn siŵr ein bod ni yn monitro ac yn mesur y pethau fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn."
Barn y pleidiau eraill
Ond mae'r gwrthbleidiau yn dweud bod yna feysydd eraill sydd ddim yn cael eu crybwyll yn y cynllun.
Dywed y Ceidwadwyr bod angen gwella'r gofal sydd yn cael ei rhoi i gleifion gyda chanser a chynnig mwy o gyffuriau canser i bobl sydd gyda'r salwch.
Mae Plaid Cymru yn teimlo bod angen hyfforddi mwy o ddoctoriaid ac yn dweud y bydden nhw yn blaenoriaethu denu a chadw meddygon ifanc yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2013
- Cyhoeddwyd22 Mai 2013
- Cyhoeddwyd23 Mai 2013
- Cyhoeddwyd23 Mai 2013