Lansio Radio Beca ar faes y 'steddfod
- Cyhoeddwyd

Gorsaf radio i'r gymuned fydd Radio Beca
Mae Radio Beca wedi cael ei lansio yn swyddogol ar faes yr eisteddfod yr Urdd.
Bydd yr orsaf gymunedol yn gwasanaethu siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro ar ôl iddi ennill trwydded darlledu gan Ofcom yn 2012.
Y nod yw defnyddio lleisiau a thalentau lleol a Chymraeg fydd yn cael ei chlywed yn ystod yr oriau brig.
Wrth lansio'r orsaf radio newydd dywedodd Euros Lewis o Radio Beca mai gwasanaeth i'r gymdeithas fydd yr orsaf.
"Nid menter ddarlledu'n unig yw Radio Beca," meddai.
"Byddwn ni'n rhoi ffocws i greadigrwydd yn enw'r Gymraeg, gan ymestyn at y di-Gymraeg a grwpiau ethnig sydd wedi setlo yn ein plith a chael deialog greadigol rhyngddom ni a'n gilydd.
"Mae eisiau i gymaint o bobl â phosibl ar draws y tair sir... i deithio gyda ni.
"Cymdeithas yw beth ŷn ni'n siarad amdano fe, pobl yn teithio gyda'i gilydd.
"Byddwn ni'n creu rhaglenni gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddara oll.
"Ni fydd y cyfan i gyd; nid darlledwyr fydd pobl Radio Beca ond galluogwyr."
Cyfrannu yn ariannol
Mae Radio Beca yn un o naw gorsaf radio sydd yn cael ei diffinio fel rhai 'cymunedol' sydd wedi derbyn grant o £10,000 gan Lywodraeth Cymru eleni.
Fe fydd hi hefyd yn bosib i bobl brynu cyfranddaliadau ac roedd y cyn ddarlledwr ac un o hoelion wyth yr ardal, Sulwyn Thomas yn annog pobl y tair sir a thu hwnt i gyfrannu'n ariannol at y fenter.

Mae'r orsaf radio wedi dechrau darlledu ar y we
"Ry'n ni'n eich annog chi i fuddsoddi £100... i ni fedru rhedeg Radio Beca," meddai.
"Mae'n wasanaeth pwysig ychwanegol i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd i'r gymuned, i'r gymdeithas ac i'r iaith Gymraeg."
Yn ôl Euros Lewis mae cael seiliau cadarn ariannol yn bwysig: "Dyna pam dw i ddim mewn unrhyw hast â dweud y gwir i fynd â'r arbrawf o ddarlledu sydd yn digwydd yr wythnos hon lawer ymhellach nes ein bod ni wedi cael y sail ariannol yn iawn.
"Mae'n rhaid i Radio Beca sefyll ar ei thraed ei hun."
Wrth gloi'r lansiad, mynnodd cadeirydd y fenter, Geraint Davies mai "eich radio chi fydd Radio Beca, nid ein radio ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012