Cyhoeddi cronfa o £10m ar gyfer busnesau adeiladu llai

  • Cyhoeddwyd
Adeiladu
Disgrifiad o’r llun,

Gall y cynllun arwain at greu 310 o swyddi yn ôl y llywodraeth

Mae cronfa o £10m wedi ei sefydlu er mwyn darparu benthyciadau i fusnesau adeiladu bach a chanolig.

Pwrpas y Gronfa Datblygu Eiddo Cymru yw rhoi hwb i'r diwydiant adeiladu drwy alluogi busnesau i dyfu drwy ddarparu benthyciadau iddynt.

Yn ôl Llywodraeth Cymru gallai'r £10m cychwynnol maent yn ei ddarparu arwain at greu hyd at 310 o swyddi newydd a diogelu 250 pellach.

Maent yn dweud y bydd y gronfa'n "gweithredu ar sail fasnachol a thrwy ailgylchu elw ei buddsoddiadau".

Bydd y cynllun yn cael ei reoli gan Cyllid Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart: "Adeiladu yw un o'n sectorau allweddol ac mae ganddo'r potensial i gael effaith fawr ar yr economi. Mae gan y diwydiant gyfraniad pwysig at feithrin economi fywiog ac amgylchedd o'r radd flaenaf."

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd llefarydd FMB Cymru (Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr) Ifan Glyn: "Ry'n ni'n croesawu'r gronfa newydd hon sydd wedi ei dylunio er mwyn galluogi busnesau adeiladu yng Nghymru i gael mynediad at gyllid ac i roi hwb i'r sector busnesau bach a chanolig".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol