Defnyddio Twitter i ddadansoddi'r iaith

  • Cyhoeddwyd
Dr David WillisFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr David Willis wedi bod yn astudio'r iaith sy'n cael ei ddefnyddio ar wefan Twitter

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caergrawnt wedi bod yn astudio'r wefan Twitter i ddadansoddi'r ffordd mae'r Gymraeg yn newid.

Defnyddiodd Dr David Willis wybodaeth o'r wefan er mwyn dyfeisio holiadur fel rhan o'i waith yn astudio'r iaith Gymraeg.

Nod tymor hir Dr Willis yw creu "atlas cystrawennol" o'r Gymraeg.

"Rwy'n canolbwyntio ar gystrawen yr iaith - strwythur gramadeg a brawddegau - a fy nod tymor hir yw cynhyrchu atlas o dafodieithoedd Cymraeg fydd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r iaith a'r dylanwadau gwahanol arni," meddai Dr Willis.

Yn hytrach na chomisiynu astudiaeth beilot ddrud fel sail i'r holiadur, fe ddefnyddiodd y tîm ymchwilio'r wefan Twitter er mwyn cael braslun o sut mae'r iaith yn newid ac yn esblygu.

Holiadur

Roedd yr holiadur yn gofyn i siaradwyr Cymraeg aildrefnu brawddegau oedd wedi cael eu rhoi mewn trefn oedd yn fwriadol od.

Darganfyddodd Dr Willis wahaniaeth mewn ymatebion pobl sydd wedi dysgu Cymraeg gartref i gymharu â phobl oedd wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol.

"Mae'r rhai sy'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn fwy tebygol o ddefnyddio cystrawennau brawddeg Saesneg, sy'n Gymraeg digon boddhaol ond yn wahanol iawn i'r cystrawennau a ddefnyddir gan y rhai sy'n dysgu Cymraeg yn y cartref," meddai Dr Willis.

Mae Dr Willis yn credu y bydd y data o gymorth i'r awdurdodau wrth iddynt lunio polisi iaith y dyfodol.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol