£8 miliwn i hyfforddi gweithwyr gofal
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddiant gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi derbyn hwb o £8.16 miliwn.
Mae'r grant gan Lywodraeth Cymru yn rhan o becyn gwerth £11.66 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon.
Nod y rhaglen yw cynyddu'r defnydd o hyfforddiant yn y sector gofal cymdeithasol cyfan.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio sicrhau bod y cyhoedd yn dangos mwy o barch at waith a gofal cymdeithasol.
'Sgiliau hanfodol'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwenda Thomas: "Mae angen i ni sicrhau bod gan y bobl sy'n darparu gofal rheng flaen y sgiliau hanfodol i ymgymryd â'u gwaith hyd eithaf eu gallu yn unol â'n huchelgais i gynyddu statws a phroffil y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
"Amlinellais raglen uchelgeisiol a chyraeddadwy yn 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu', ac rwy'n credu bod hyn yn gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol drwyddi draw".
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyngor Gofal Cymru y bydd yn gwario £1.8m dros y chwe blynedd nesaf yn codi safon arferion gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
'Ansawdd uchel'
Dywedodd Rhian Huws Williams, prif weithredwr y Cyngor Gofal:
"Mae'n hanfodol buddsoddi i hyfforddi a datblygu gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel.
"Mae'r Cyngor Gofal yn croesawu'r ffaith fod y buddsoddiad hwn wedi'i gadarnhau.
"Mae'n hollbwysig bod y gweithlu o'r ansawdd uchaf, gyda'r hyfforddiant gorau ar gael i ddarparu gofal a chymorth ledled Cymru".
Yn gynharach ym mis Mai fe wnaeth arweinwyr yn y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol godi amheuon am honiadau Llywodraeth Cymru bod modd diwygio gwasanaethau cymdeithasol heb arwain at gostau uwch i'r trethdalwr.
Bydd y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), sydd wedi ei gynllunio i symleiddio'r cyfreithiau sy'n rheoli gofal cymdeithasol, yn gorfodi cynghorau i asesu anghenion gofalwyr.
Ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi codi amheuon am honiadau gweinidogion y na fydd y newidiadau yn cael effaith ar y pwrs cyhoeddus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2013