Cymdeithas yn galw am ganllawiau cynllunio
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg wedi galw eto ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau cynllunio newydd er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg.
Ar faes yr Urdd yn Sir Benfro dywedodd y comisiynydd Meri Huws ei bod yn hollbwysig bod y Gymraeg yn cael ei hystyried ym mhob un o benderfyniadau polisi'r llywodraeth
Ychwanegodd bod cael canllawiau i fesur effaith adeiladu stadau mawr o dai ar yr iaith yn rhan hanfodol o hynny.
Daeth y drafodaeth ar faes yr eisteddfod wythnos wedi cyhoeddiad y llywodraeth eu bod wedi gwrthod cais i edrych eto ar benderfyniad i godi bron 300 o dai yn Sir Gaerfyrddin.
Ar y pryd, mynnodd caredigion yr iaith y byddai adeiladu'r tai yn effeithio'n andwyol ar y Gymraeg ym Mhenybanc, ger Rhydaman.
Dywedodd y llywodraeth mai mater i'r cyngor yw ceisiadau cynllunio unigol.
Yn 2011, cynhaliodd y llywodraeth ymgynghoriad ar ysgrifennu canllawiau cynllunio newydd ond does dim canllawiau newydd wedi eu cyhoeddi eto.
Cwestiwn Cymdeithas yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg yw pam fod y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sergeant yn oedi cyn cyhoeddi'r canllawiau.
Yn ôl Ms Huws, mae angen cyhoeddi canllawiau newydd i orfodi cynghorau i ystyried effeithiau rhoi caniatâd cynllunio ar y Gymraeg ar frys.
Ar hyn o bryd, mae cynghorau sir yn dilyn canllawiau nodyn technegol o'r enw TAN 20.
"Dw i yn disgwyl byw mewn Cymru lle mae'r Gymraeg yn cael ei ystyried ym mhob rhan o bolisi," meddai.
"Mae angen pwyso ar ein gwleidyddion, Llywodraeth Cymru ac hefyd pwyso ar lywodraeth leol bod unrhyw fater polisi yn ystyried 'Ble mae'r Gymraeg?'
"Tan gawn ni [ganllawiau cynllunio newydd] ry'n ni'n mynd i fod yn creu mwy o sefyllfaoedd fel Penybanc... mae'r sefyllfa'n mynd i godi lle mae'r cyngor cynllunio yn mynd i allu dweud 'does dim gorfodaeth arnon ni i ystyried y Gymraeg'."
Mae'r comisiynydd wedi ysgrifennu at y gweinidog tai ddwywaith ar y mater hwn, heb gael ymateb.
Mae Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith yn gydlynydd gyda Cynghrair Cymunedau Cymraeg - mudiad sy'n gweithio i warchod ac adfer y Gymraeg yng nghymunedau Cymru.
Dywedodd Ms Machreth eu bod nhw fel sefydliad wedi gofyn am gyfarfod a'r gweinidog i drafod y mater.
"Cynlluniau yr awdurdodau lleol sy'n cael y flaenoriaeth yn hytrach na pobl llawr gwlad sydd am amddiffyn eu hiaith," meddai.
Mae BBC Cymru Arlein yn disgwyl am ymateb y llywodraeth i sylwadau Comisiynydd y Gymraeg a Ms Machreth.