300 o dai: gwrthod cais

  • Cyhoeddwyd
Pen-y-bancFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygwyr am godi 289 o dai

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais i edrych eto ar benderfyniad i godi bron 300 o dai yn Sir Gaeryfyrddin.

Roedd mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi galw ar y llywodraeth i ystyried effaith datblygiad Pen-y-banc ger Rhydaman ar yr iaith Gymraeg.

Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw'n adolygu TAN 20, y canllaw i ddatblygwyr am effeithiau ar yr iaith.

Dywedodd Cadeirydd Dyfodol yr Iaith, Heini Gruffudd: "Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n ystyried effaith datblygiad ar goedwigoedd, cefn gwlad, adnoddau dŵr a'r amgylchedd - ond nid yr iaith.

'Yn poeni'

"Mae'r llywodraeth wedi ymgynghori â mudiadau sy'n cynrychioli'r buddiannau hyn ond nid Comisiynydd y Gymraeg sy' wedi dweud ei bod yn poeni am y datblygiad ym Mhen-y-banc."

Dywedodd y dylai'r llywodraeth alw i mewn pob cynllun sy'n ymwneud â mwy na 50 o dai hyd nes y byddai fersiwn newydd TAN 20 mewn grym.

Mae'r llywodraeth wedi dweud na fyddai modd gwneud sylw am gais unigol.

"Mae Iaith Byw yn ymroi i gwblhau adolygiad o bolisi cynllunio ac unrhyw gyngor technegol am yr iaith," meddai llefarydd.

"Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn Nghynllun Gweithredu Starategaeth yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2013-14."

Cyhoeddi

Dywedodd y byddai fersiwn newydd o TAN 20 yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn dangos bod llai'n siarad Cymraeg yn y sir.

Yn ardal Rhydaman mae 49.9% yn siarad Cymraeg tra oedd 61.46% yn 2001.