Arddangosfa'n agor yn Fenis
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa'r arlunydd Bedwyr Williams yn agor i'r cyhoedd yn Fenis ddydd Sadwrn.
Ei waith The Starry Messenger yw cyfraniad Cymru i'r Biennale, y digwyddiad celf gyfoes sy'n cael ei gynnal yn yr Eidal bob yn ail flwyddyn.
Dyluniodd ei arddangosfa yn ei gartref yn Rhostryfan ger Caernarfon ac mae'n cynnwys cerflunio a gwaith fideo.
Seryddiaeth amaturaidd yw ei ysbrydoliaeth ac mae arsyllfa a thelesgop yn rhan o'r arddangosfa.
'Diddorol'
"Mae 'na rywbeth am gymeriad rhywun sy'n edrych allan sy'n ei wneud yn ffigwr ddiddorol i sbïo arno fo," meddai Bedwyr.
Yn y gwaith fideo yn un o ystafelloedd yr arddangosfa mae Bedwyr yn ddeintydd yn gwisgo masg wedi'i greu o deils terazzo.
Mae ystafell arall yn cynnwys bwrdd anferth wedi'i orchuddio gyda gwrthrychau fel lampau, dillad a haearn smwddio.
Dywedodd Bedwyr ei fod wrth ei fodd gyda'r syniad o gynyddu maint gwrthrychau pob dydd yn sgil dylanwad storiau'r Borrowers ac Alice in Wonderland.
Mae am i ymwelwyr i'r arddangosfa ddychmygu eu bod nhw mor fach â theilsen derazzo yn syllu ar fyd anferth o'u cwmpas.
'Ffocws'
"Dwi'n meddwl bod yr arddangosfa yn rhoi rhywfath o ffocws ar le ydan ni yng nghanol y darnau bach mân yma a hwyrach bod y byd yn un darn bach yng nghanol llawr terazzo anferth sef y bydysawd.
"Dwi'n pwyntio allan a chael tipyn bach o sbort wrth feddwl am y gwahanol raddfeydd sydd ar waith yma."
Ers 10 mlynedd mae lleoliad arbennig i waith o Gymru wedi bod yn Fenis.
Mae pafiliwn Prydeinig wedi bod yno ers y Biennale cyntaf yn 1895 ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru wedi cynnal arddangosfeydd annibynnol ar gyrion y prif ddigwyddiad.
Y gost o gynnal yr arddangosfa yw £400,000, gyda'r arian yn dod o Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae'r gwariant ychydig yn uwch na'r blynyddoedd blaenorol, a bydd yr arddangosfa yn Fenis tan ddiwedd y Biennale ym mis Tachwedd.
'80 o wledydd'
Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Celfyddydau, Nick Capaldi, ei bod hi'n briodol bod gan Gymru bresenoldeb yn Fenis.
"Wrth geisio cyflwyno gwlad - ei chreadigrwydd, a'i henw da am gelf - mae'n bwysig bod yma yng nghanol prif ddigwyddiad celfyddydau gweledol y byd.
"Mae dros 80 o wledydd yma a Chymru'n un ohonyn nhw.
"Mae'r Biennale fel Formula 1 y byd celf. Mae ceir Formula 1 yn dra gwahanol i geir cyffredin er bod ganddyn nhw bedair olwyn, ac weithiau wrth gerdded o gwmpas y Biennale mae rhywun yn gofyn: 'Beth yw'r cysylltiad rhwng hyn a'r gelf weledol mae pobl yn gyfarwydd â hi yn barod?'
"Ond mae'r syniadau newydd, y creadigrwydd yma yn Fenis yn cyrraedd gweddill y byd celf weledol ..."
Roedd y beirniad celf Lowri Haf Cooke yn un o'r rhai cyntaf i weld yr arddangosfa.
'Tu hwnt'
"Diolch byth am Bedwyr Williams," meddai.
"Sôn am wibdaith synhwyrus i bendraw'r bydysawd. Dwi wedi gweld, teimlo, clywed, arogli, synhwyro. Am brofiad.
"Mae Bedwyr Williams yn un o'r ychydig artistiaid Cymreig sydd yn edrych y tu hwnt i Gymru am ysbrydoliaeth, ac nid yn syllu ar ei fogel ei hun.
"Dyw e ddim yn tindroi yn y byd Cymreig rhyw ormod. Dyna pam dwi'n credu ei fod e'n taro deuddeg gyda nifer o bobl, nid yn unig yma yn y Biennale yn Fenis ond hefyd ar lawr gwlad, mewn galerïau yng Nghymru a hefyd ar y maes yn yr Eisteddfod yn flynyddol."
Bedwyr Williams - The Starry Messenger yn y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice yn Fenis fel rhan o ddigwyddiadau'r Biennale tan fis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013