Cymorth i ddioddefwyr llifogydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth i roi cymorth i bobl sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd a hynny flwyddyn ers y dilyw yng Ngheredigion.
Mis Mehefin y llynedd cafodd busnesau, cartrefi a pharciau carafannau eu boddi gan ddŵr wrth i werth mis o law syrthio mewn 24 awr.
Ardaloedd Aberystwyth, Talybont, Llandre oedd rhai o'r ardaloedd gafodd eu heffeithio.
£500,000 oedd y gost i'r cyngor i drwsio'r ffyrdd a phontydd a hefyd i glirio ychydig o'r llanast.
Fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru gwerth £140,000 i'r cyngor er mwyn helpu gyda'r costau.
Nid dim ond Ceredigion gafodd ei effeithio gan lifogydd y llynedd. Fe achosodd y glaw broblemau i drigolion yn Rhuthun a Llanelwy hefyd.
Gwasanaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am gynnig gwasanaeth i rai sydd wedi dioddef yn sgil llifogydd.
Maent yn dweud bod modd lleihau'r risg a'r effaith a'i bod yn buddsoddi £150 miliwn yn y maes. Does dim llawer o fanylion ynglŷn â beth yn union fydd y gwasanaeth newydd yn cynnig na phwy fydd yn ei rhedeg. Ond maent wedi dweud:
"Fe fyddwn i yn ymgynghori ar raglen genedlaethol yn yr haf fydd yn helpu ni i sicrhau bod yr adnoddau yn mynd i'r cymunedau sydd fwyaf tebygol o gael llifogydd ac yn ystyried opsiynau er mwyn darparu gwasanaeth sydd yn cefnogi pobl sydd wedi dioddef yn sgil llifogydd."
Mae dyn wnaeth orfod gadael ei gartref yn Nhalybont mis Mehefin wedi croesawu'r newyddion.
Dywedodd Mick Fothergill sydd erbyn hyn wedi medru dychwelyd i'w dŷ: "Mae'n holl bwysig bod pobl yn derbyn y wybodaeth gywir am yr wythnosau cyntaf ar ôl llifogydd.
"Dw i'n credu y gall mudiadau llywodraethol wneud llawer mwy, hyd yn oed os yw e jest bod yn rheolwr rhwng y dioddefwyr a'r mudiadau megis y cwmnïau yswiriant.
"Byddai fforwm sydd yn cynnig popeth y gallai pobl ffonio pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd yn ddefnyddiol iawn."
Mae trigolion yn Nhalybont wedi sefydlu pwyllgor llifogydd ers y digwyddiad ac mi fyddan nhw'n ymgyrchu er mwyn cryfhau pontydd a waliau ar gyfer y dyfodol.
Mi fydd yna farbiciw hefyd yn cael ei gynnal gan y pentrefwyr nos Wener er mwyn diolch i bobl wnaeth helpu yn dilyn y dilyw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012